Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Aberteifi

Seiclo anghyfreithlon - ar y pafin ac yn groes i’r system unffordd yn nhref Aberteifi

  • Dydd Mawrth, Rhagfyr 6, 2011
    Sad 10 Maw 2012
    Amh.

    22/02/2012 - Rydym wedi sicrhau fod patrolau ar droed yn cael eu cynnal gan dîm plismona bro Aberteifi mewn mannau problemus. Golyga hyn fod patrolau’n cael eu cynnal yn yr ardal er mwyn ceisio adnabod y rhai sy’n beicio ar y pafinau o gwmpas y dref. Yn ddiweddar, rydym wedi rhoi nifer o rybuddion llafar a geiriau o gyngor priodol i unrhyw un sydd wedi eu gweld yn beicio ar y pafin.

    06/12/10 - Rhoddwyd nifer o rybuddion llafar. Cysylltwyd â Chyngor Ceredigion a fydd yn gosod arwydd ‘seiclwyr disgynnwch’ ar y bont gerdded dros yr afon.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

  • Dydd Gwener, Mehefin 17, 2011
    Sad 10 Maw 2012

    Y Tîm Plismona Bro i ymdrin â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol gan gynnwys yfed dan oed/yfed ar y stryd.

    22/02/2012 - Mae tîm plismona bro Aberteifi wedi ymateb i nifer o alwadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a chyflwyno cyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol pan yn berthnasol. Hefyd, cynhaliwyd patrolau amlwg ar droed er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed ar y stryd yn nhref Aberteifi.

Materion parcio o gwmpas tref Aberteifi, yn arbennig ar linellau melyn sengl/dwbl.

  • Dydd Gwener, Mehefin 17, 2011
    Sad 10 Maw 2012
    Amh.

    22/02/2012 - Mae Heddlu Aberteifi wedi cynyddu nifer y patrolau ar droed yng nghanol tref Aberteifi a rhoi tocynnau neu eiriau o gyngor i unrhyw un sydd wedi parcio ar linellau melyn dwbl neu sengl.

Blaenoriaethau Blaenorol

Arolygydd Louise Bradshaw 2083

  • Louise Bradshaw

    Ganed yr Arolygydd Louise Bradshaw yn Lloegr ond yna symudodd i Gymru gan fynychu Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.  Dychwelodd i Geredigion yn 2002 gyda’i theulu a bu’n gweithio mewn gwahanol fannau ar draws y sir.  Mae ganddi brofiad amrywiol ac eang gan iddi weithio mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac mewn nifer o feysydd megis plismona’r ffyrdd, y ddalfa, cudd-wybodaeth a diogelu’r cyhoedd.

Sarjant Alison Rees 843

  • Ganwyd a magwyd y Sarjant Alison Rees yn Sir Benfro. Ymunodd â Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn 1986 a threuliodd 8 mlynedd ym Mryste cyn trosglwyddo yn ôl ‘adref’ i Ddyfed-Powys yn 1994. Ar ôl dychwelyd, fe’i lleolwyd yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, lle mae wedi gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant. Ym mis Ionawr 2007 ymunodd â’r Tîm Plismona Bro, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Swyddogion Bro yng Nghanolbarth a De Ceredigion.

PCSO Owen James 8090

  • Daw PCSO Owen James o Aberhonddu yn wreiddiol, ac Aberteifi yw’r lle cyntaf iddo gael ei leoli. Bu’n gweithio fel achubwr bywydau yng Nghanolfan Hamdden Aberhonddu cyn ymuno â Heddlu Dyfed-Powys. Mae’n chwaraewr rygbi brwd. Mae’n chwarae i Glwb Rygbi Cefneithin ac yn cefnogi tîm y Scarlets. Mae’n edrych ymlaen at greu argraff yn ardal Aberteifi a mynd i’r afael â materion lleol megis ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae’n mwynhau gweithio yn Aberteifi yn fawr iawn, a dywedodd, “Rwy’n llawn cynnwrf i fod yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys ac rwy’n bwriadu cerdded yn ôl troed fy nhad trwy ddilyn gyrfa fel heddwas”.

Cyfarfodydd Bro

  • Ystafell Gynadledda yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi
    Dydd Mercher 6 Mehefin, 7:00pm - 8:00pm

Cymorthfeydd

  • Ddydd Mercher olaf pob mis

    10am Ridgeway a 10.30am Golwg y Castell
    Dydd Mercher 30 Mai, 1:00am
  • 1pm Maesglas a 1.30pm Felin Ban
    Dydd Mercher 30 Mai, 1:00am
  • Ddydd Mercher olaf pob mis

    Caffi Tesco
    Dydd Mercher 30 Mai, 3:00pm - 4:00pm