Llambed
Parcio yn nhref Llanbedr Pont Steffan
-
Dydd Llun, Mai 23, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
19/10/2011 - Trefnwyd nifer o ddiwrnodau tocynnau parcio gan yr heddlu a gwnaed awgrymiadau i Awdurdod y Briffordd mewn perthynas â newid y drefn wrth fynedfa’r ysgol er mwyn lleihau tagfeydd a hwyluso mynediad i fysiau. Cafwyd sylw cadarnhaol yn y wasg mewn perthynas â phendantrwydd heddlu Llanbedr Pont Steffan i barhau i ymdrin â phroblemau parcio yn absenoldeb wardeiniaid traffig.
23/05/2011 - Bydd swyddogion yn patrolio’r dref ac yn gorfodi lle y bo angen.
Trefnu cyfarfodydd PACT ym mhob un o’r pedair ward
-
Dydd Llun, Mai 23, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
19/10/2011 - Anfonwyd llythyrau at bob Cyngor Cymuned.
23/05/2011 - Golyga hyn tref Llanbedr Pont Steffan, Llanfihangel Ystrad, Llanwenog a Llangybi.
Gyrru peryglus ac anystyriol yn y maes parcio o flaen tractorau Gwili Jones yn nhref Llanbedr Pont Steffan
-
Dydd Mercher, Hydref 19, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
Gweithio gyda phobl ifanc sy’n ymgasglu o gwmpas mynediad archfarchnad Sainsbury’s er mwyn ceisio dod o hyd i weithgarwch positif
-
Dydd Mercher, Hydref 19, 2011Iau 20 Hyd 2011Amh.
Arolygydd Louise Bradshaw 2083
Ganed yr Arolygydd Louise Bradshaw yn Lloegr ond yna symudodd i Gymru gan fynychu Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr. Dychwelodd i Geredigion yn 2002 gyda’i theulu a bu’n gweithio mewn gwahanol fannau ar draws y sir. Mae ganddi brofiad amrywiol ac eang gan iddi weithio mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac mewn nifer o feysydd megis plismona’r ffyrdd, y ddalfa, cudd-wybodaeth a diogelu’r cyhoedd.
Sarjant Alison Rees 843
Ganwyd a magwyd y Sarjant Alison Rees yn Sir Benfro. Ymunodd â Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn 1986 a threuliodd 8 mlynedd ym Mryste cyn trosglwyddo yn ôl ‘adref’ i Ddyfed-Powys yn 1994. Ar ôl dychwelyd, fe’i lleolwyd yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, lle mae wedi gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant. Ym mis Ionawr 2007 ymunodd â’r Tîm Plismona Bro, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Swyddogion Bro yng Nghanolbarth a De Ceredigion.
PC Richard Marshall 956
Ymunodd PC Richard Marshall â’r Heddlu ym 1996 tra’n byw yn Aberystwyth a bu’n gweithio yn Llanelli am bum mlynedd cyn symud i Lambed, lle daeth yn Rheolwr Bît Lleol. Yna, treuliodd Richard gyfnod yn Nhregaron a’r cymunedau gwledig cyfagos cyn dychwelyd i Lambed lle y mae nawr yn Gwnstabl Plismona Bro. Derbyniodd Richard Gymeradwyaeth y Prif Gwnstabl yn ddiweddar am ei rôl mewn digwyddiad difrifol ym Mynyddoedd Cambria.
PCSO Ryan Jones 8071
Ymunodd Ryan Jones fel PCSO ym mis Mawrth 2007. Cwblhaodd ei ddwy flynedd yn nosbarth chwech Ysgol Uwchradd y Frenhines Elizabeth, Caerfyrddin yn 2006 a bu’n gweithio ym maes adwerthu cyn ymuno â’r heddlu. Mae’n mwynhau cydweithio gydag aelodau o’r gymuned a gweithio’n agos â phob cymuned yn yr ardal.
Cyfarfodydd Bro
-
Caffi ‘Yr Hedyn Mwstard’, Stryd y Coleg, Llanbedr Pont Steffan
Cymorthfeydd
-
Ail ddydd Mercher o’r mis. Caxton News, Llanbedr Pont Steffan, 9.30-10.30. Llangybi 11.00-11.45 ger yr ysgol.
Llanwnnen 1.00-1.45 yn swyddfa’r post.
Felinfach 2.00-2.45 ger siop Wendy.Gorsaf Heddlu SymudolDydd Mercher 14 Mawrth
-
Maw 07 Chwef 2012darllen mwy >>
Dymuna Heddlu Dyfed-Powys adnabod rhai a allai’n cynorthwyo yn dilyn trosedd lle y dygwyd arwydd...
-
Gwen 03 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu ac Awdurdod Heddlu Dyfed-Poyws yn falch o gyhoeddi penodiad Mr Carl Langley fel eu...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Nid pob dydd y gallwch ddweud bod trosedd yn talu – ond diolch i Gronfa Ysgogi Heddlu Dyfed-...
-
Iau 26 Ion 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i lofruddiaeth Irene Lawless, 67 oed...
-
Maw 24 Ion 2012darllen mwy >>
Bydd dyn 38 oed yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe mewn cysylltiad â 27 trosedd masnachu...


