Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Penparcau a Llanbadarn

PACT

  • Dydd Gwener, Rhagfyr 30, 2011
    Maw 10 Ion 2012

    Nid yw Tîm Plismona Bro Penparcau a Llanbadarn Fawr yn cynnal cyfarfodydd PACT chwarterol gydag aelodau’r gymuned bellach. Fodd bynnag, mae aelodau’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gyfarfod yn rheolaidd gyda Chynghorwyr etholedig yr ardal yn ogystal ag asiantaethau partner allanol er mwyn trafod problemau sy’n codi a phennu datrysiadau er mwyn lliniaru’r problemau hynny. Os oes gan unrhyw un unrhyw beth yr hoffent drafod gyda Thîm Plismona Bro Penparcau a Llanbadarn Fawr, mae croeso iddynt fynd i Swyddfa Heddlu Penparcau yn Neuadd Goffa, Penparcau, un o Gymorthfeydd wythnosol y tîm, cysylltu â’r Tîm Plismona Bro ar 101, neu siarad â’r swyddogion pan maent ar ddyletswydd.

Blaenoriaethau Blaenorol

Sarjant Delme Rees 515

  • Rhingyll Plismona Bro canolbarth Ceredigion yw Rhingyll 515 Delme Rees. Wedi cyflawni'r un rôl yn ardal Aberystwyth, mae nawr yn edrych ymlaen at fynd i'r afael â phroblemau yn ei gymuned leol trwy fod yn hygyrch, a thryw gefnogi ei heddweision i gyflawni'r blaenoriaethau cymunedol a nodwyd.

PC Gareth Jones 791

  • PC Gareth Jones yw’r Swyddog Plismona Bro dros ardaloedd Penparcau a Llanbadarn Fawr, rôl a gychwynnodd ym mis Mehefin 2010.  Cyn hynny, bu’n gweithio yng Ngorsaf Heddlu Aberystwyth fel aelod o’r tîm ymateb, ac mae wedi’i hyfforddi i gyflawni dyletswyddau trefn gyhoeddus (Uned Wrth Gefn yr Heddlu).  Mae wedi byw mewn llefydd ar draws ardal yr heddlu ond fe’i magwyd yn bennaf yn Aberystwyth a bu’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Penweddig.  Mae’n gefnogwr pêl-droed a ralio brwd.

PCSO Chris Tipper 8072

  • Mae PCSO Chris Tipper wedi bod yn ei swydd ers mis Mawrth 2007. Mae’n rhan o Dîm Plismona Bro Penparcau / Llanbadarn Fawr ac yn gyfrifol am ardal Penparcau. Mae Chris yn dod yn wreiddiol o ardal Aberteifi ac yn ymddiddori mewn beiciau modur ac eirafyrddio.

Cyfarfodydd Bro

  • Canolfan Hamdden Plascrug, Llanbadarn Fawr

Cymorthfeydd

  • Bob dydd Llun

    Swyddfa Post Penparcau
    Dydd Llun 21 Mai, 11:00am
  • Mae Tîm Plismona Bro Penparcau a Llanbadarn Fawr yn cynnal Cymhorthfa yn adeilad Llywodraeth Cymru bob dydd Mercher o 2pm hyd 3.30pm. Mae’r gymhorthfa’n gyfle gwych i aelodau o staff yr adeilad ymgysylltu ag aelod o’r Tîm Plismona Bro ac i drafod unrhyw beth y maent yn dymuno gyda’r Heddlu. Nid yw’r gymhorthfa ar gyfer preswylwyr Penparcau a Llanbadarn Fawr yn unig, ac os nad yw’r swyddog sy’n bresennol yn medru cwrdd â’ch anghenion na datrys y mater ar y pryd, yna bydd y swyddog yn rhoi’ch manylion i’r Tîm Plismona Bro sy’n gyfrifol am eich ardal chi.

    Adeilad Llywodraeth Cymru
    Dydd Mercher 23 Mai, 2:00pm - 3:30pm