Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tregaron

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanddewi Brefi

  • Llangeitho a Llanddewi Brefi
    Dydd Mawrth, Chwefror 8, 2011
    Gwen 18 Chwef 2011

    Mae Pwyllgor y Neuadd Gymunedol wedi ail-gychwyn y Clwb Ieuenctid. Cyflogwyd Ieuenctid Cambrian er mwyn cynnal sawl sesiwn hyd ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ceisir cyllid er mwyn i hyn barhau. Mae Cymunedau’n Gyntaf a Thîm Plismona Bro Tregaron hefyd wedi dechrau agor y neuadd snwcer unwaith yr wythnos er mwyn i bobl ifanc ei defnyddio.

Parcio ar Stryd y Capel a’r Sgwâr

  • Tregaron
    Dydd Gwener, Chwefror 11, 2011
    Gwen 18 Chwef 2011

    Mae tocynnau parcio wedi eu rhoi gan swyddogion yr heddlu ar batrôl yn yr ardal.

Baw cŵn ledled Tregaron

  • Tregaron
    Dydd Gwener, Chwefror 11, 2011
    Gwen 18 Chwef 2011

    Mae prosiect wedi ei chychwyn gan Dîm Plismona Bro Tregaron a Chyngor Sir Ceredigion trwy ‘Prosiect Ardal Adfywio Tregaron a’r Pentrefi Cyfagos’. Mae hyn yn cynnwys darparu bagiau arbennig i ddal baw cŵn yn rhad ac am ddim, taflenni’n hysbysu perchnogion cŵn o’u dyletswyddau cyfreithiol, a choleri am ddim i gŵn perchnogion cyfrifol.

Arolygydd Louise Bradshaw 2083

  • Louise Bradshaw

    Ganed yr Arolygydd Louise Bradshaw yn Lloegr ond yna symudodd i Gymru gan fynychu Ysgol Gyfun Aberaeron a Phrifysgol Cymru, Aberystwyth cyn ymuno â Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr.  Dychwelodd i Geredigion yn 2002 gyda’i theulu a bu’n gweithio mewn gwahanol fannau ar draws y sir.  Mae ganddi brofiad amrywiol ac eang gan iddi weithio mewn dinasoedd ac ardaloedd gwledig ac mewn nifer o feysydd megis plismona’r ffyrdd, y ddalfa, cudd-wybodaeth a diogelu’r cyhoedd.

Sarjant Alison Rees 843

  • Ganwyd a magwyd y Sarjant Alison Rees yn Sir Benfro. Ymunodd â Heddlu Afon a Gwlad yr Haf yn 1986 a threuliodd 8 mlynedd ym Mryste cyn trosglwyddo yn ôl ‘adref’ i Ddyfed-Powys yn 1994. Ar ôl dychwelyd, fe’i lleolwyd yng Ngorsaf Heddlu Aberteifi, lle mae wedi gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant. Ym mis Ionawr 2007 ymunodd â’r Tîm Plismona Bro, a hi sy’n gyfrifol am oruchwylio’r Swyddogion Bro yng Nghanolbarth a De Ceredigion.

PC Stephen Greensmyth 427

  • Trosglwyddodd PC Stephen Greensmyth i Heddlu Dyfed-Powys yn 2007 ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth yn Heddlu Llundain. Bu’n gweithio mewn amryw o rolau gan gynnwys dyletswyddau ymateb mewn lifrau, lle bu’n treulio amser fel Swyddog Cymunedol Lleol ar ystâd dai yng nghanol dinas Llundain. Treuliodd tair blynedd yn hyfforddi heddweision newydd ac am y pedair blynedd diwethaf bu’n gweithio fel Swyddog CID yn ngorllewin Llundain. Mae ei deulu’n hanu o bentref bach y tu allan i Gaerfyrddin ac roedd bob amser yn fwriad ganddo ddychwelyd i Gymru. Mae’n teimlo’n freintiedig i gael bod yn swyddog cymunedol lleol ar gyfer ardal Tregaron ac i fod yn gallu ymdrin â materion y mae pobl yn dymuno i’w heddlu lleol eu datrys.

PCSO Adam Foale 427

  • Mae PCSO Adam Foale wedi byw yn ardal Aberystwyth y rhan fwyaf o’i oes. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys fel Cwnstabl yn Ebrill 2008, yn gweithio yn Aberystwyth, cyn iddo ddod yn Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu yn 2009. Ar ôl cwblhau ei hyfforddiant cychwynnol ymunodd â Thîm Plismona Bro De Ceredigion fel y Swyddog Cefnogi Cymunedol ar gyfer ardal Tregaron.

Cyfarfodydd Bro

  • Cynhelir cyfarfodydd PACT a fforymau Cymunedau’n Gyntaf yn Nhregaron a Llanddewi Brefi. Hysbysebir dyddiadau ac amserau ar gyfer eu cyfer yn lleol. Cynhelir cyfarofydd PACT yn Llangeitho gyda Gwarchod Cymdogaeth lleol. Hysbysebir dyddiadau ac amserau ar gyfer eu cyfer yn lleol.

Cymorthfeydd

  • Ar y dydd Llun cyntaf o bob mis

    Sgwâr Llangeitho
    Dydd Llun 5 Mawrth, 9:30am - 11:30am
  • Ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis

    Ysgol Gynradd Llanddewi Brefi
  • Ar y dydd Mawrth cyntaf o bob mis

    Sgwâr Tregaron (yn siop Spar)
    Dydd Mawrth 6 Mawrth, 5:00pm - 6:30pm