Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Hwlffordd

Llanc-raswyr yn creu helynt yn nhref Hwlffordd

  • Dydd Mawrth, Rhagfyr 7, 2010
    Maw 10 Ebr 2012
    Amh.

    20/04/2012 - Rebels rasio a goryrru yn ardaloedd Cartlett, Prendergast a Lôn Slade.

    09/03/2012 - Goryrru a rebels rasio o gwmpas ardal tref Hwlffordd, yn arbennig o gwmpas ardaloedd Murco, Prendergast, Scotchwell a McDonalds.

    08/11/2011 - Rebels rasio yn Hwlffordd a’r cyffiniau, yn arbennig Heol Abergwaun, Heol Aberteifi a garej Murco, maes parcio siop Wilkinson, Prendergast a chae Rifleman.  Oriau brig ar benwythnosau – nos Wener a nos Sadwrn o 7pm hyd 2am.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn nhref Hwlffordd yn ystod gwyliau ysgol y Pasg gyda’r dydd a gyda’r nos

  • Dydd Mawrth, Ebrill 10, 2012
    Maw 10 Ebr 2012
    Amh.

Iau, Mai 03, 2012

  • Gobeithio’ch bod yn teimlo bod y cylchlythyrau hyn yn ddefnyddiol. Fe’u hariennir gan yr Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona ac fe’u cefnogir gan y Swyddfa Gartref i’ch hysbysu am yr hyn y mae’r Heddlu yn ei wneud yn eich ardal.

PC Carolyn Davies 468

  •  

    Mae’r PC Carolyn Davies wedi bod yn swyddog plismona bro yn nhref Hwlffordd ers Mehefin 2006. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys dros 13 mlynedd yn ôl ac ymgartrefodd yn Sir Benfro saith mlynedd yn ôl. Ers bod yn swyddog Plismona Bro mae wedi sefydlu cysylltiadau ardderchog â’r ieuenctid lleol trwy’r coleg, ac mae yn awr yn disgwyl ymlaen at ehangu’r gwaith da hwn ar y cyd â’r tîm newydd o PCSOs.

     

PCSO Dave Owen 8022

  • Mae’r PCSO Dave Owen wedi byw yn Sir Benfro ers dros 30 mlynedd ac arferai fod yn ddisgybl yn Ysgol Sir Thomas Picton. Ers ymuno â’r tîm plismona bro, mae PCSO David Owen wedi dysgu llawer am y gymuned leol yn Hwlffordd a sut mae amryw o asiantaethau o fewn y gymuned yn cydweithio. Dywedodd: “Yr agwedd orau o’r gwaith yw bod yn rhan o dîm penodol a chydweithio’n agos gyda’m cyd-swyddogion.”

PCSO Rachel Wall 8042

  • Ymunodd PCSO Rachel Wall â’r tîm plismona bro ym mis Mawrth 2007. Mae’n gyfrifol am ardal y Garth yn Hwlffordd. Mae Rachel wrth ei bodd yn cwrdd â’r bobl leol ac yn datblygu partneriaethau sy’n cydweithio er mwyn creu bro sy’n fwy sefydlog ac yn fwy diogel.

PCSO Emma Roberts 8036

  • Bydd PCSO Emma Roberts yn llenwi swydd wag a fydd yn codi yn nhîm Aberdaugleddau wrth i PCSO Kelly Early symud i Dyddewi. Magwyd PCSO Roberts yn Sir Benfro ac mae’n edrych ymlaen at helpu i ddatrys problemau yn yr ardal leol.

PCSO Liam Woodford 8025

  • Bu PCSO Liam Woodford yn gweithio yn Efrog Newydd fel hyfforddwr chwaraeon i bobl ifanc am bum mlynedd. Mae ganddo radd mewn Addysg Awyr Agored ac Astudiaethau Chwaraeon. Ers dechrau yn y swydd mae wedi mwynhau cyfarfod a gweithio gyda phobl ifanc yr ardal ac mae wedi ffurfio perthynas agos â Choleg Sir Benfro a’r ysgolion lleol.

Cyfarfodydd Bro

  • Dydd Llun cyntaf y mis.

    Dydd Llun 4 Mehefin