Ar ôl cyfarfod mis diwethaf lle y mynegwyd pryderon ynghylch diffyg swyddogion Gorfodi Parcio yn y dref, dywedodd 8064 wrth y cyfarfod bod swyddogion gorfodi parcio wedi’u gweld yn y dref yn ystod y mis diwethaf, a siaradwyd â hwy ynghylch materion parcio.
-Wellington Road – Mynegwyd pryderon ynghylch llechfeddiant coed a gwrych dros droedffordd ger yr eglwys
-Goleuadau Stryd - mae rhai aelodau o’r cyfarfod wedi ysgrifennu at eu Hawdurdod Lleol i fynegi pryderon ynghylch goleuadau stryd yn cael ei ddiffodd yn eu cymdogaethau.
-Ystad Mount – Preswylwyr yn adrodd bod modur mini yn cael ei yrru mewn modd gwrthgymdeithasol ar droedffyrdd ar yr ystâd.
Aberdaugleddau
‘Rebels Rasio’ yn Aberdaugleddau
-
Dydd Mawrth, Mawrth 13, 2012Maw 15 Mai 2012Amh.
13/03/2012 - Rhoddwyd hysbysiadau rhybudd Adran 59 ledled y sir mewn perthynas â defnyddio cerbydau modur mewn modd gwrthgymdeithasol.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol / yfed dan oed
-
Yn ardaloedd Aberdaugleddau, Hakin a Hubberston gyda’r nos ac ar y penwythnosauDydd Iau, Gorffennaf 15, 2010Maw 15 Mai 2012Amh.
13/03/2012 - Atafaelwyd a gwaredwyd ar alcohol wrth grŵp o bobl ifainc dan oed yn ardal Heol Steynton.
15/07/2010 - Patroliwyd yr ardaloedd canlynol mewn perthynas â phobl ifanc a’r
camddefnydd o alcohol: Y Rath, y Gerddi Dŵr, maes chwarae Pill, Eglwys
Dewi Sant, Priordy Isaf, Maes Meads, Slip Hill, Traeth Aberdaugleddau,
Traeth Conduit, Gelliswick, Ffordd Marble Hall a’r llwybr arfordirol
ger South Hook. Mae’n ymddangos bod yna ostyngiad yn y nifer o achosion
o gamddefnyddio alcohol yn yr ardaloedd hyn gan na dddarganfuwyd unrhyw
ganiau, poteli neu unrhyw gynhwysydd arall yn gysylltiedig ag alcohol
yno. Dwy flynedd yn ôl, roedd y tîm yn atafaelu alcohol bron bob dydd.
Ar hyn o bryd, ychydig iawn o alcohol sydd yn cael ei atafaelu. Mae
patrolau’n parhau i rwystro pobl ifanc rhag yfed alcohol mewn mannau
cyhoeddus. Mae’r diwrnodau Gweithgareddau Am Ddim yn parhau, gyda’r un
nesaf yn cael ei gynnal ar yr 28ain o Orffennaf yng Nghlwb Hwylio
Gelliswick i blant dros 14 oed. Cynhelir chwaraeon yng Nghanolfan
Chwaraeon Meads ar y 30ain o Orffennaf, a physgota ar y 13eg o Awst.
Mer, Medi 28, 2011
Arolygydd Blackmore
Sarjant Vaughan 197
PC Richard Hughes 1146
Bu’r PC Richard Hughes gyda Heddlu Llundain am 21 mlynedd cyn trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys yn 2004. Ganddo ef mae’r cyfrifoldeb am dref Aberdaugleddau.
PC Bev Beynon 1149
PCSO Paul Mayhew 8064
Mae PCSO Paul Mayhew wedi bod yn y swydd ers 2007. Mae wedi byw yn Neyland erioed ac arferai fod yn swyddog gorfodaeth gyda’r adran briffyrdd a hefyd yn Gwnstabl Gwirfoddol. Mae’n mwynhau bod yn rhan o grwpiau a gweithgareddau cymunedol ar gyfer pobl a phlant o bob oed, datblygu cysylltiadau, gwrando ar bryderon pobl am faterion pob dydd sy’n peri consyrn iddynt, a cheisio datrys problemau trwy gydweithio â grwpiau cymunedol a phartner-asiantaethau. Ei nod yw ehangu a datblygu’r cynllun gwarchod cymdogaeth sydd eisoes yn bodoli yn y dref.
PCSO Adam Goy 8063
Mae PCSO Adam Goy wedi setlo mewn yn dda ers iddo ddechrau ei rôl newydd ym mis Mawrth 2007. Mae’n mwynhau ei swydd oherwydd ei bod yn gyfle iddo weithio gyda phob math o bobl a’u helpu i ddatrys y problemau sy’n bwysig iddynt. Mae’n mwynhau ymgysylltu â sefydliadau megis clybiau ieuenctid lleol a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned. Mae Adam yn sbortsmon brwd a rhedodd Farathon Llundain i godi arian i Ysbyty Plant Tŷ Hafan.
PCSO Stacy Thomas 8012
Ymunodd PCSO Stacy Thomas â Thîm Plismona Bro Aberdaugleddau ym mis Hydref 2006. Cyn hynny bu’n gweithio am ymron i naw mlynedd yn Llys Ynadon Hwlffordd, ac yn ystod y cyfnod hwnnw, roedd hefyd yn gweithio i Heddlu Dyfed-Powys fel gwirfoddolwr a gweithredydd CCTV.
Cyfarfodydd Bro
-
Cedar Court, AberdaugleddauDydd Mawrth 12 Mehefin, 7:00pm
-
Gwen 18 Mai 2012darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd, bu Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal patrolau amlwg ar...
-
Mer 09 Mai 2012darllen mwy >>
Nid pob dydd y gallwch ddweud bod trosedd yn talu – ond diolch i Gronfa Ysgogi Heddlu Dyfed-...
-
Mer 02 Mai 2012darllen mwy >>
Oriau agor Swyddfeydd Ymholiadau’r Cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar gyfer Dydd Llun 7...
-
Mer 28 Maw 2012darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymroddiad i’r gymuned a wasanaethir ganddo, dymuna Heddlu Dyfed-Powys dynnu sylw at...
-
Llun 19 Maw 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd o saith mlynedd o garchar a roddwyd i Andrew...


