Fel rhan o’i ymroddiad i’r gymuned a wasanaethir ganddo, dymuna Heddlu Dyfed-Powys dynnu sylw at y newid o ran lleoliad ar gyfer cyfarfodydd PACT Aberdaugleddau Wledig.
Bydd cyfarfod PACT Aberdaugleddau Wledig nawr yn cael ei gynnal yn Neuadd yr Institiwt, Johnston ar ail nos Iau’r mis am 7 o’r gloch.
Mae’r tîm yn cynnwys yr Arolygydd Jackie Blackmore, Rhingyll Martin Vaughan 197, PC Terri Harrison 968, PCSO Lyndon Brown 8062 a PCSO Helen Scott 8057. Mae Tîm Tref Aberdaugleddau yn eu cynorthwyo, sef PC Richard Hughes 1146, PC Bev Beynon 1149, PCSO Stacy Thomas 8012, PCSO Adam Goy 8063 a PCSO Paul Mayhew 8064.
Am ragor o wybodaeth, galwch 101.





