Stryd y Llwyn
Hysbyswyd y cyfarfod nad oes problemau ar Stryd y Llwyn bellach gan fod dau breswylydd wedi derbyn rhybudd gan Adran Dai Penfro, a rhoddwyd rhybudd i’r prif droseddwr adael.
Birdcage Walk/Hawkstone Road
Hysbyswyd y cyfarfod y siaradwyd ag Adran Dai Penfro ynghylch codi ffens y tu allan i’r eiddo dan sylw. Fodd bynnag, roedd yr Adran Dai yn teimlo y byddai codi ffens yn rhoi cuddfan i droseddwyr. Gwnaethant gysylltu â Chyngor Sir Penfro mewn perthynas â gosod ffensys ar hyd y llwybr sy’n arwain heibio i’r eiddo a effeithir i Ystâd y Llwyn.




