Dinbych-y-pysgod
Ymddygiad gwrthgymdeithasol wrth yr arosfan bws, Lower Park Road
-
Dydd Iau, Tachwedd 3, 2011Maw 10 Ebr 2012Amh.
Yfed dan oed gyda’r hwyr
-
Nhref Dinbych-y-pysgodDydd Iau, Chwefror 2, 2012Maw 10 Ebr 2012Amh.
Arolygydd Tim Hoad 2041
Sarjant Geraint Lewis 108
PC Nigel Lewis 182
Ymunodd PC Nigel Lewis â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Ionawr 1986. Bu’n gwasanaethu yn Aberdaugleddau, Neyland, Dinbych-y-pysgod, yr Adran Hyfforddi Rhanbarthol, Hwlffordd, Doc Penfro ac Arberth cyn dychwelyd i Ddinbych-y-pysgod ym mis Awst 2010 fel Rheolwr Plismona Bro. Yn ystod ei yrfa bu’n gyfrifol am diwtora dwsinau o fyfyrwyr yr heddlu a ddaeth i weithio yn Sir Benfro, gan rannu cyfoeth o wybodaeth a phrofiad gyda nhw. Mae’n hyfforddwr mewn amryw o bynciau, gan gynnwys Cymorth Cyntaf, ac yn aseswr NVQ. Mae PC Lewis yn byw yn lleol yn Pentlepoir ac yn uwch wirfoddolwr gyda’r elusen enwog Ambiwlans Sant Ioan. Mae’n disgwyl ymlaen at ymgymryd â’r heriau a fydd yn ei wynebu yn ei rôl, ac i gydweithio gydag aelodau o’r gymuned, y cyngor, busnesau ac asiantaethau partner eraill er mwyn datrys problemau heddiw ac yn y dyfodol.
PCSO Mandy Goodland 8083
Ymunodd PCSO Mandy Goodland â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Medi 2007. Cyn hynny roedd bu’n berchen ar ei Salon Prydferthwch ei hun ers pum mlynedd ar hugain ac, ar ôl ennill Tystysgrif Addysg i Raddedigion, roedd hefyd yn gwneud peth darlithio mewn colegau. Mae Mandy yn briod, mae ganddi ddau o blant ac mae’n byw yn Pentlepoir ger Saundersfoot. Mae’n mwynhau dod i adnabod y cyhoedd, datrys problemau a gweithio mewn tîm; mae’n credu bod siarad a thrafod yn ffordd dda o ddatrys llawer o broblemau ac mae’n cael cyfle i wneud hynny yn ei rôl fel PCSO. Yn ei hamser sbâr, mae Mandy yn mwynhau cerdded llwybr yr arfordir, yfed gwinoedd da a chael prydau blasus mewn bwytai.
PCSO Idwal David 8001
Idwal David oedd un o’r PCSOs cyntaf i ymuno â’r heddlu hwn. Mae wedi gweithio yn Llanelli a Hwlffordd cyn dod i Ddinbych-y-pysgod. Aeth i Ysgol Greenhill cyn cychwyn gyrfa gyda’r Llynges Frenhinol. Dywedodd Idwal: “Mae gweithio mewn partneriaeth â’r bobl a’r busnesau lleol yn nhref Dinbych-y-pysgod a’r ardal gyfagos yn rhoi pleser mawr i mi. Trwy gydweithio gyda’n gilydd, rwy’n siŵr y gallwn, dros y blynyddoedd sydd i ddod, fynd i’r afael â materion ansawdd bywyd sy’n effeithio’n ddyddiol ar bob rhan o’r boblogaeth.”
Cyfarfodydd Bro
-
Dydd Mercher 1af o bob mis
Nghanolfan Gymunedol Augustus Place, Dinbych-y-pysgodDydd Mercher 6 Mehefin, 8:00pm - 10:00pm
Cymorthfeydd
-
Dydd Llun 1af o bob mis (ac eithrio gwyliau banc)
Mini Farchnad New HedgesDydd Llun 4 Mehefin, 11:00am - 1:00pm -
2il ddydd Mercher o bob mis.
Marchnad Dinbych-y-pysgodDydd Mercher 13 Mehefin, 11:00am - 1:00pm -
Trydydd dydd Mercher o bob mis
Neuadd Gymunedol PenalunDydd Mercher 20 Mehefin, 3:30pm - 4:50pm
-
Gwen 18 Mai 2012darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymrwymiad i ddiogelu’r cyhoedd, bu Heddlu Dyfed-Powys yn cynnal patrolau amlwg ar...
-
Mer 09 Mai 2012darllen mwy >>
Nid pob dydd y gallwch ddweud bod trosedd yn talu – ond diolch i Gronfa Ysgogi Heddlu Dyfed-...
-
Mer 02 Mai 2012darllen mwy >>
Oriau agor Swyddfeydd Ymholiadau’r Cyhoedd yn Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro ar gyfer Dydd Llun 7...
-
Mer 28 Maw 2012darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymroddiad i’r gymuned a wasanaethir ganddo, dymuna Heddlu Dyfed-Powys dynnu sylw at...
-
Llun 19 Maw 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi croesawu’r ddedfryd o saith mlynedd o garchar a roddwyd i Andrew...



