Yn ystod misoedd yr haf, gall fod cynnydd yn nifer y lladradau o gerbydau sydd wedi’u parcio mewn mannau harddwch unig o fewn ac o gwmpas yr ardal. Er mwyn mynd i’r afael â throseddau o’r fath, bu swyddogion y Tîm Rheoli Bro yn cynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal hon gan gynghori twristiaid i sicrhau nad oes unrhyw beth gwerthfawr yn weladwy yn eu cerbydau.
Aberhonddu Wledig
Lladradau beiciau cwad a metel sgrap mewn ardaloedd gwledig
-
Dydd Sul, Ionawr 15, 2012Gwen 27 Ion 2012
Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol yn Erbyn Lladradau Metel - 14/12/11. Bu’r Tîm Plismona Bro yn ymweld â’r amryw o safleoedd sydd wedi’u targedu yn y gorffennol a safleoedd a allai cael eu targedu. Rhoddwyd cyngor diogelwch a dosbarthwyd taflenni.
15/01/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro o hyd yn ymgysylltu â ffermwyr lleol a chynnal patrolau amlwg mewn ardaloedd gwledig er mwyn rhoi tawelwch meddwl ac atal trosedd. Roedd PCSO Hope yn bresennol yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a rhoddwyd cyngor atal trosedd ynglŷn â chadw beiciau cwad a pheiriannau fferm yn ddiogel.
Lladradau olew mewn ardaloedd gwledig
-
Dydd Sul, Ionawr 15, 2012Gwen 27 Ion 2012
Mae’r Tîm Plismona Bro o hyd yn ymgysylltu â ffermwyr lleol ac yn cynnal patrolau amlwg mewn ardaloedd gwledig er mwyn rhoi tawelwch meddwl ac atal trosedd. Aeth PCSO Hope i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a rhoddwyd cyngor ynghylch cadw beiciau cwad a pheiriannau fferm yn ddiogel.
Mer, Awst 17, 2011
Arolygydd Steve Thomas 2064
Ymunodd yr Arolygydd Steve Thomas â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1999 a chychwynnodd ei yrfa gyda’r heddlu yn Noc Penfro. Yn 2001, trosglwyddodd i Lanelli lle y mwynheuodd weithio fel swyddog ymateb, Ditectif Gwnstabl a Sarjant CID.
Hefyd, mae wedi gweithio fel Sarjant mewn gorsafoedd isadrannol ac mae’n llwyr ymwybodol o’r materion cymunedol sy’n pryderi aelodau o’r cyhoedd. Ym mis Mehefin 2010, cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.
Sarjant Adele Pitt 960
Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.
Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.
A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt. Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.
Sarjant Rod Bowen 481

PC Steve Nicholls 1009
Mae PC Steven Nicholls yn swyddog bro arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda’r fasnach drwyddedu er mwyn lleihau trosedd dreisgar.
PCSO Bryony Hope 8051
PCSO Bryony Hope sy’n gyfrifol am ddatblygu cysylltiadau â’r cymdogaethau gwledig a’r cymunedau amaethyddol.
Cymorthfeydd
-
Maes parcio Neuadd Bentref Llanddew
-
Maes parcio Neuadd Henderson, TalybontDydd Llun 6 Chwefror, 4:00pm - 5:00pm
-
Maes parcio Neuadd Bentref Llan-gors
-
Maes parcio Ysgol Gynradd Cradoc
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Defnyddiwyd paent i achosi difrod i gar Ford Focus du pan oedd wedi’i barcio ar Ffordd...
-
Maw 17 Ion 2012darllen mwy >>
Mae chwe erial wedi’u dwyn o gerbydau a oedd wedi’u parcio yn ardal Uplands, Aberhonddu yn ystod...
-
Maw 17 Ion 2012darllen mwy >>
Mae heddlu Aberhonddu wedi arestio tri dyn o ardal Caerdydd ar amheuaeth o gyflawni...
-
Mer 04 Ion 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion CID Aberhonddu yn ymchwilio ar ôl i ymwthwyr gael eu haflonyddu mewn tafarn ym...
-
Mer 14 Rhag 2011darllen mwy >>
Ceisir tystion ar ôl i rywun neu rywrai anhysbys grafu tri phanel ar gar a oedd wedi’i barcio ar...