Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Aberhonddu

Ymddygiad gwrthgymdeithasol – Rebels Rasio yn ymgynnull ac yn goryrru o fewn ac o amgylch y dref.

  • Dydd Llun, Chwefror 14, 2011
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

    19/01/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio’n agos ag Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru, sy’n cynnal patrolau rheolaidd yn y dref a’r ardal gyfagos.

    20/06/11 - Mae Tîm Rheoli Bro Aberhonddu ynghyd ag Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru yn dal i drefnu mentrau er mwyn mynd i’r afael â’r pryderon hyn.

    17/06/11 -  Ymgyrch Loud – 27ain o Fai 2011. Cynhaliwyd patrolau gan Dîm Rheoli Bro Aberhonddu ac Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru gan dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol gyrwyr/cerbydau modur yn ardal tref Aberhonddu. O ganlyniad i’r ymgyrch, rhoddwyd nifer o hysbysiadau cosb benodedig, ac ymdriniwyd â throseddau eraill.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol o fewn ac amgylch y dref

  • Parc Uplands a Pharc y Theatr
    Dydd Llun, Chwefror 14, 2011
    Llun 23 Ion 2012

    Mae’r Tîm Rheoli Bro wedi ymrwymo i sicrhau patrolau amlwg mewn lleoliadau allweddol ar adegau penodol.

    19/01/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau amlwg o fewn ac o amgylch y dref er mwyn rhoi tawelwch meddwl ac atal digwyddiadau ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd. Mae swyddogion yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda masnachwyr yn y dref, ac mae hyn wedi arwain at ddal menyw a geisiodd prynu alcohol i rai dan 18 oed. Cyfwelwyd â’r troseddwraig ac fe’i riportiwyd am y drosedd. Rhoddwyd Hysbysiad Cosb Un-tro iddi.

    15/07/11 - Mae’r Tîm Rheoli Bro wedi parhau i gynnal patrolau i roi tawelwch meddwl yn ardaloedd Ffordd y Gamlas, Parc Uplands, Parc Sglefrio Llanfaes ac Ysgol Fabanod Mount Street yn dilyn adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ymwelwyd â thrigolion yn yr ardaloedd hyn, gan roi tawelwch meddwl iddynt o ran yr achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol. O ganlyniad i’r patrolau gweladwy a gynhaliwyd gan y Tîm Rheoli Bro, siaradwyd â nifer o bobl ifanc, cymerwyd eu manylion cysylltwyd â’u rhieni, ac aed ag alcohol i ffwrdd wrthynt. Anogwyd trigolion i barhau i riportio materion o’r fath i’r heddlu.

    17/06/11 - Ymgyrch Trafalgar -13eg a’r 14eg o Fai 2011. Cynhaliodd Tîm Rheoli Bro Aberhonddu batrolau ar droed yn nhref Aberhonddu gyda’r hwyr gan dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymddygiad niwsans a achosir gan alcohol, ac yfed dan oed. Aed ag alcohol wrth bobl ifanc ar y ddwy noson, a chyflwynwyd dau gyfeiriad ymddygiad gwrthgymdeithasol. Gwneir ymholiadau pellach er mwyn canfod lle y prynwyd yr alcohol ac i weld a oes troseddau dan y Ddeddf Trwyddedu wedi eu cyflawni.

Gwen, Ionawr 27, 2012

  • Bu’r Tîm Plismona Bro yn ymweld â’r amryw o safleoedd sydd wedi’u targedu yn y gorffennol a safleoedd a allai cael eu targedu. Rhoddwyd cyngor diogelwch a dosbarthwyd taflenni.

Arolygydd Steve Thomas 2064

  • Steve Thomas

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Thomas â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1999 a chychwynnodd ei yrfa gyda’r heddlu yn Noc Penfro.  Yn 2001, trosglwyddodd i Lanelli lle y mwynheuodd weithio fel swyddog ymateb, Ditectif Gwnstabl a Sarjant CID.

    Hefyd, mae wedi gweithio fel Sarjant mewn gorsafoedd isadrannol ac mae’n llwyr ymwybodol o’r materion cymunedol sy’n pryderi aelodau o’r cyhoedd. Ym mis Mehefin 2010, cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.

Sarjant Adele Pitt 960

  • Adele Pitt

    Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.

    Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant  Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.

    A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt.  Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.

Sarjant Rod Bowen 481

  • Rod Bowen

    Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.

    Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant  Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.

    A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt.  Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.

PC Sara Meredith 828

  • Sara Meredith

    Ymunodd PC Sara Meredith â Heddlu Dyfed-Powys yn 2003. Roedd wedi ei lleoli’n wreiddiol yn Llandrindod, ac yn ddiweddarach roedd ynghlwm â’r Uned Gwasanaethau Cwsmer ym Mhowys. Y mae nawr wedi ei lleoli yn Aberhonddu, ac yn cymryd yr awenau oddi ar PC Andy Pole fel Rheolwraig Bît ychwanegol i weithio ochr yn ochr â  PC Steve Nichols a’r Tîm Plismona Bro. Mae Sara’n byw’n lleol ac yn llawn ymwybodol o broblemau ac anghenion lleol. Mae’n swyddog sy’n llawn hunan-ysgogiad ac sy’n wynebu pob her newydd â brwdfrydedd.

PC Steve Nicholls 1009

  • Mae PC Steven Nicholls yn swyddog bro arbenigol sy’n gweithio’n agos gyda’r fasnach drwyddedu er mwyn lleihau trosedd dreisgar.

PC Martin Follows 748

PCSO Simon Beaton 8076

  • Mae gan PCSO Simon Beaton gyfrifoldeb dros ward Dewi Sant ac yn benodol yr ardal ddiwydiannol yn Ffrwdgrech a Choleg Crist.

PCSO Andrew Rogers 8091

  • Andrew Rogers

    Mae Andy Rogers yn dod yn wreiddiol o Grymlyn, tref fechan y tu allan i Goed-duon, Gwent. Aeth i’r brifysgol yng Nghaerdydd lle’r enillodd radd mewn Cymdeithaseg a Throseddeg a Chyfiawnder Troseddol. Ar ôl gadael y Brifysgol bu Andy yn gweithio fel Gweithiwr Cymdeithasol gydag oedolion ag awtistiaeth a phroblemau ymddygiad.  Mwynheuodd Andy ei gyfnod yn y rôl hon a roddai llawer o foddhad iddo, fodd bynnag, roedd gweithio i’r Heddlu yn rhywbeth yr oedd wedi dymuno ei wneud erioed. Ym mis Mawrth eleni ceisiodd am swydd fel PCSO gyda Heddlu Dyfed-Powys a chafodd ei dderbyn a’i benodi i weithio yn Llwynhendy. Mae Andy yn hoff iawn o chwaraeon yn enwedig pêl-droed, rygbi a sboncen, ac mae’n cefnogi Dreigiau Gwent.

PCSO Steffan Rees 8035

  • PCSO Steffan Rees

    Bu PCSO Steffan Rees yn Gwnstabl Gwirfoddol yng Nghaerfyrddin o fis Medi 2008 tan fis Hydref 2009, cyn ymuno â Thîm Plismona Bro Llandysul ym mis Rhagfyr 2009. Trosglwyddodd i Orsaf Heddlu Aberhonddu ym mis Ebrill 2011, lle y mae nawr yn gweithio gyda Thîm Plismona Bro Aberhonddu. Mae’n gyfrifol am Ward Dewi Sant.

SC Al Williams 7315

  • Al Williams

    Mae’r Cwnstabl Gwirfoddol Williams wedi bod yn aelod ymroddedig o deulu’r heddlu ers iddo ymuno â Heddlu Dyfed-Powys ym 1994, ac mae wedi mwynhau cyflawni amryw o rolau yn ystod ei gyfnod gyda’r gwasanaeth.

    Mae’n byw yn Aberhonddu gyda’i bartner a’i ferch ac yn gweithio fel goruchwylydd yn y diwydiant adeiladu gyda chwmni lleol hirsefydlog.

    Yn ei amser sbâr, mae’n mwynhau cerdded bryniau, codi pwysau, chwarae’r gitâr a’r mandolin a chanu mewn band.

     

SC Hawkins 7049

  • SC Hawkins

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2011. Rwy’n awyddus i gael fy ngweld yn helpu’r gymuned leol. Rwy’n gweithio fel gofalwr mewn ysgol uwchradd fawr yn y Cymoedd. Yn ystod fy amser hamdden, rwy’n mwynhau chwaraeon modur a ffitrwydd.

SC Cullen 7113

  • SC Cullen

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2011. Cefais fy addysgu yng Ngholeg Crist, ac ar hyn o bryd rwy’n gorffen fy ngradd mewn ffoto-newyddiaduraeth. Dewisais ddod i Aberhonddu gan mai yno y cefais fy magu ac rwy’n awyddus i weithio o fewn y gymuned rwy’n ei hadnabod.

SC Rhodri Herbert 7130

  • SC Rhodri Herbert

    Fy enw i yw Rhodri Herbert, ac ymunais â Heddlu Dyfed-Powys fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Mawrth 2011. Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau cadw’n heini trwy redeg a nofio, a phan nad wyf yn plismona, rwy’n hyfforddwr nofio. Rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda’r gymuned a helpu i ddatrys rhai o’r problemau.

Cyfarfodydd Bro

  • Neuadd Eglwys Dewi Sant, Llanfaes, Aberhonddu
  • Cyfarfod PACT ward y Santes Fair

    Yn yr ystafell gynhadledd yng Ngorsaf yr Heddlu, Aberhonddu.

Cymorthfeydd

  • Pob dydd Mercher rhwng 10:00 a 11:00am. Ceir blwch syniadau yn yr eglwys lle gallwch fynegi eich pryderon y tu allan i oriau’r gymhorthfa

    Aberhonddu: Eglwys y Santes Fair
    Dydd Mercher 15 Chwefror, 10:00am - 11:00am