Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Crucywel

Ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghrucywel

  • Dydd Llun, Medi 19, 2011
    Gwen 27 Ion 2012
    Amh.

    24/01/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i ddarparu patrolau gweladwy o fewn ac o gwmpas y dref.

    20/12/201 - Bu’r Tîm Plismona Bro yn cynnal patrolau amlwg o gwmpas ardal y dref yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol a throsedd.

    13/11/2011 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau amlwg o gwmpas y dref, y cyrtiau tenis a’r lawnt fowlio.
     
    Mae PC 1015 Keane yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Sgowtiaid Crucywel i’w cynorthwyo i gael eu bathodyn Gwasanaeth Cymunedol. Gweithgareddau cymunedol yn parhau ym mis Tachwedd.

Lladradau Beiciau Cwad, Metel Sgrap ac Olew mewn ardaloedd gwledig

  • Dydd Mawrth, Ionawr 24, 2012
    Gwen 27 Ion 2012
    Amh.

    24/01/2012 - Mae Swyddogion o’r Tîm Plismona Bro, Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru a Cherbydau Heddlu heb eu Marcio yn parhau i weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod patrolau rheolaidd yn cael eu cynnal yn yr holl ardaloedd gwledig er mwyn targedu ac atal trosedd.

Blaenoriaethau Blaenorol

Mer, Awst 17, 2011

  • Gyda chynnydd cyffredinol yn nifer y masnachwyr ffug, mae PCSO Harries wedi siarad â phob busnes garddio lleol, sydd wedi cytuno i ddosbarthu taflenni atal trosedd i breswylwyr oedrannus. Mae Cyngor Sir Powys hefyd wedi cynghori defnyddwyr gwasanaeth i fod yn wyliadwrus ynghylch masnachwyr ffug ar ôl i breswylwyr bregus ac oedrannus gael eu targedu gan dwyllwyr yn ne’r sir.

Arolygydd Steve Thomas 2064

  • Steve Thomas

    Ymunodd yr Arolygydd Steve Thomas â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1999 a chychwynnodd ei yrfa gyda’r heddlu yn Noc Penfro.  Yn 2001, trosglwyddodd i Lanelli lle y mwynheuodd weithio fel swyddog ymateb, Ditectif Gwnstabl a Sarjant CID.

    Hefyd, mae wedi gweithio fel Sarjant mewn gorsafoedd isadrannol ac mae’n llwyr ymwybodol o’r materion cymunedol sy’n pryderi aelodau o’r cyhoedd. Ym mis Mehefin 2010, cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.

Sarjant Adele Pitt 960

  • Adele Pitt

    Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.

    Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant  Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.

    A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt.  Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.

Sarjant Rod Bowen 481

  • Rod Bowen

PC Mark Keane 1015

  • Mae PC Mark Keane yn swyddog bro arbenigol. Mae ganddo gysylltiadau ardderchog â’r gymuned ac mae’n defnyddio’r rhain er mwyn rhoi sylw i faterion lleol a’r rhai sy’n codi o gyfarfodydd P.A.C.T.

PCSO Lloyd Harries 8073

  • Mae PCSO Lloyd Harries yn gweithio yn y Gelli, Talgarth a Chrughywel ac mae’n ymdrin â materion bro lleol sy’n codi o’r patrol neu gyfarfodydd P.A.C.T. lleol.

SC Lee Garrett 7002

  • Lee Garrett

    Ymunodd Lee Garrett â Heddlu Dyfed-Powys fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Ebrill 2010. Mae’n byw yn Y Fenni gyda’i wraig ac yn mwynhau coginio a cherdded yn ei amser sbâr.

    Mae’n mwynhau gweithio gyda’r gymuned a delio â phroblemau lleol, gan helpu i’w datrys

Cyfarfodydd Bro

  • Neuadd y Farchnad, Stryd Fawr, Crucywel