Mae cyfarfodydd stryd a chymorthfeydd gyda swyddogion lleol yn parhau yn y Gelli. Fe’u cynhelir mewn lleoliadau yn nhref y Gelli er mwyn ymgysylltu â’r cyhoedd.
Y Gelli a'r Clas-ar-Wy
Atal a datrys achosion o siopladrata yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig
-
Dydd Iau, Ionawr 12, 2012Mer 18 Ion 2012Amh.
Cynyddu patrolau ar droed yn y cyfnod yn arwain at y Nadolig gyda’r bwriad o atal siopladrata gyda’r dydd a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref ac mewn tafarndai gyda’r nos.
Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref yn ystod y dydd a’r nos drwy gynyddu patrolau ar droed yn yr ardal
-
Dydd Iau, Ionawr 12, 2012Mer 18 Ion 2012Amh.
12/01/2012 - Ymdriniodd heddlu’r Gelli ag 11 galwad ymddygiad gwrthgymdeithasol, y rhan fwyaf ohonynt yn gwerylau cymdogaeth. Mae rhai ohonynt yn parhau i gael eu monitro a bydd swyddogion yn gweithredu drwy ddefnyddio’r system ASBIS a thrwy weithio mewn partneriaeth.
Gwen, Medi 30, 2011
Arolygydd Steve Thomas 2064
Ymunodd yr Arolygydd Steve Thomas â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Gorffennaf 1999 a chychwynnodd ei yrfa gyda’r heddlu yn Noc Penfro. Yn 2001, trosglwyddodd i Lanelli lle y mwynheuodd weithio fel swyddog ymateb, Ditectif Gwnstabl a Sarjant CID.
Hefyd, mae wedi gweithio fel Sarjant mewn gorsafoedd isadrannol ac mae’n llwyr ymwybodol o’r materion cymunedol sy’n pryderi aelodau o’r cyhoedd. Ym mis Mehefin 2010, cafodd ei ddyrchafu’n Arolygydd ac mae wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.
Sarjant Adele Pitt 960
Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.
Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.
A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt. Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.
Sarjant Rod Bowen 481

PC Fean Thomas 221
Mae gan PC Fean Thomas dros ugain mlynedd o brofiad fel heddwas. Bu’n gweithio gyda heddluoedd Gogledd Swydd Efrog ac Essex cyn trosglwyddo i Ddyfed Powys ym mis Ionawr 2001. Daeth i’r Gelli ym mis Tachwedd 2001 a derbyniodd swydd Rheolwr Bît ym mis Gorffennaf 2006. Mae ganddo rôl arall hefyd sef Swyddog Troseddau Bywyd Gwyllt ac Amgylcheddol ac mae wedi derbyn hyfforddiant arbennig yn y maes hwn. Mae’n mwynhau gweithio yn yr ardal brysur a phoblogaidd hon - mae’r Gelli yn un o ganolfannau twristiaeth fwyaf poblogaidd Cymru ac, ar rai adegau o’r flwyddyn, mae’n gallu bod yn dref gosmopolitan iawn. Mae’n byw yn y fro mae’n gyfrifol amdani ac mae’n mwynhau amgylchedd rhagorol yr ardal.
PCSO Lloyd Harries 8073
Mae PCSO Lloyd Harries yn gweithio yn y Gelli, Talgarth a Chrughywel ac mae’n ymdrin â materion bro lleol sy’n codi o’r patrol neu gyfarfodydd P.A.C.T. lleol.
Cyfarfodydd Bro
-
Siambr Cyngor Y Gelli, Stryd Lydan, Y GelliDydd Mawrth 28 Chwefror, 7:30pm
-
Llun 06 Chwef 2012darllen mwy >>
Gall yr heddlu gadarnhau eu bod wedi dod o hyd i’r fenyw 71 oed a riportiwyd fel unigolyn coll...
-
Llun 06 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion yn Aberhonddu’n pryderi am les Patricia Ann Evans, 71 oed. Fe’i gwelwyd diwethaf...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Defnyddiwyd paent i achosi difrod i gar Ford Focus du pan oedd wedi’i barcio ar Ffordd...
-
Maw 17 Ion 2012darllen mwy >>
Mae chwe erial wedi’u dwyn o gerbydau a oedd wedi’u parcio yn ardal Uplands, Aberhonddu yn ystod...
-
Maw 17 Ion 2012darllen mwy >>
Mae heddlu Aberhonddu wedi arestio tri dyn o ardal Caerdydd ar amheuaeth o gyflawni...