Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Talgarth a Gwernyfed

Ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol yn Nhalgarth a’r ardaloedd cyfagos

  • Dydd Iau, Mawrth 17, 2011
    Gwen 18 Mai 2012

    Mae’r Tîm Rheoli Bro yn parhau i ymweld ag adeiladau trwyddedig yn ddirybudd sy’n galluogi swyddogion i fonitro a mynd i’r afael ag unrhyw anhrefn, camddefnyddio cyffuriau neu faterion trwyddedu.

    17/05/2012 - Mae Patrolau Heddlu gwelededd uchel, a hynny ar droed ac yng ngheir yr heddlu wedi'u cynnal o fewn yr ardal, yn ôl y gallu, yn ystod mis Ebrill. Yn amlwg mae preswylwyr wedi gwerthfawrogi hyn gan ein bod wedi derbyn adborth positif gan bobl pan wnaethom eu stopio a siarad â hwy. Bydd y patrolau hyn yn parhau fel rhan o flaenoriaethau'r mis hwn ar gyfer yr ardal.

    Mae'r Tîm Plismona Bro wedi bod yn cydweithio ag asiantaethau partneriaeth eraill, sef Swyddogion Datblygu Chwarae Cyngor Sir Powys mewn perthynas â'r problemau yr adroddir amdanynt o fewn Ystadau Gwernyfed. Mae trefniadau addas wedi'u gwneud i'r Tîm Plismona Bro fynychu'r Cynllun Chwarae sy'n cael ei gynnal ar yr ystâd ar hyn o bryd, gyda'r bwriad o fonitro a delio ag unrhyw ddigwyddiadau / problemau sy'n codi.

    03/04/2012 - Mae swyddogion y Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau amlwg yn ardaloedd Talgarth. Mae hyn yn galluogi swyddogion ymgysylltu â phreswylwyr ac aelodau’r gymuned. Mae swyddogion hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â’r swyddog tai ac yn cynnal patrolau troed ar y cyd o gwmpas yr ystadau.

    08/02/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau rheolaidd er mwyn monitro unrhyw broblemau ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ogystal â galw heibio i dai trwyddedig ar hap sy’n galluogi swyddogion i fonitro ac ymdrin ag unrhyw faterion anhrefn, materion defnyddio cyffuriau neu faterion trwyddedu.

Materion Traffig Cyffredinol – Parcio ac Achosi Rhwystr

  • Dydd Llun, Chwefror 14, 2011
    Gwen 18 Mai 2012

    Defnyddir ymagwedd bartneriaeth mewn ymgais i leddfu’r materion parcio o gwmpas y Farchnad Gwartheg ar ddiwrnodau marchnad. Mae’r gwaith hwn yn parhau a’r partneriaid sy’n gysylltiedig yw’r Cynghorwyr Tref, Cynghorwyr Sir, y Tîm Plismona Bro a Rheolwyr o Adran Parcio Cyngor Sir Powys.  

    17/05/2012 - Mae'r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio'n agos gydag Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru sy'n parhau i ymroi i batrolio o fewn yr ardal. Mae blaenoriaethau Parcio a Rhwystrau wedi'u trafod gyda swyddogion gorfodi Cyngor Sir Powys sydd wedi cymryd cyfrifoldeb dros reoli a gorfodi parcio ar y stryd oddi wrth yr Heddlu a Wardeniaid Traffig. Mae hyn wedi arwain at nifer o broblemau yn cael eu datrys a phatrolau/presenoldeb rheolaidd gan Swyddogion Gorfodi o fewn yr Ardal.

    03/04/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio’n agos gydag Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru sy’n cynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal bro. Mae gwaith yn cael ei gynnal ar hyn o bryd gydag Adran Priffyrdd Cyngor Sir Powys mewn perthynas â threfnu ymweliadau safle a chais am ddyfais dangos cyflymder ar gyfer pentref Trefeca.

    08/02/2012 - Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio’n agos ag Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru, sy’n patrolio’r ardal yn rheolaidd. Rhoddwyd 31 tocyn ym mis Ionawr mewn perthynas â throseddau goryrru.
    Dyma grynodeb:
    Talgarth a’r cyffiniau, gan gynnwys Heol Trefeca a Heol Bronllys - 5
    Bronllys / Llyswen - 23
    Three Cocks / Gwernyfed - 3
     
    Mae materion parcio ac achosi rhwystr yn parhau i gael eu monitro, ac mae’r Tîm Plismona Bro a Chyngor Sir Powys yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn.

Gwen, Mai 18, 2012

  • Mae PCSO 8076 Simon Beaton wedi ymuno â'r Tîm yn ddiweddar a bydd yn gyfrifol am batrolio yn Adrannau'r Gelli Gandryll a Chrucywel. Mae'n swyddog profiadol ac wedi gweithio yn Nhref Aberhonddu yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf. Mae'n edrych ymlaen at yr her o weithio o fewn ardal newydd a llunio cysylltiadau cymunedol gwych a defnyddio'r rhain i fynd i'r afael â phroblemau lleol. Edrychwch ar y Wefan Plismona Bro i weld ei lun a'i broffil.

Arolygydd Andy Reed 2123

  • Inspector Andy Reed

    Ymunodd yr Arolygydd Reed â Heddlu Dyfed-Powys yn 1992. Mae ef wedi ymrwymo tuag at weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.

Sarjant Adele Pitt 960

  • Adele Pitt

    Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.

    Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.

    A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt.  Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.

Sarjant Mal James 206

  • PS 206 Mal James

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys yn 1986 a chefais fy lleoli yn Llanelli. Rwyf wedi gweithio mewn gorsafoedd heddlu eraill dros y blynyddoedd gan gynnwys Porth Tywyn, Dinbych-y-pysgod, Llandrindod a’r Gelli Gandryll. Des i i Aberhonddu ym 1991 a chefais fy nyrchafu i reng Rhingyll yn 2007. Rwyf nawr wedi ymgymryd â rôl Rhingyll Rheoli Bro Strategol ar gyfer Sir Frycheiniog a byddaf yn gweithio ochr yn ochr â’m cydweithwraig y Rhingyll Adele Pitt. Dyma rôl newydd a fydd yn rhoi cymorth i’r Timoedd Rheoli Bro sydd eisoes yn bodoli o fewn Sir Frycheiniog. Rwyf o’r ardal a chefais fy addysg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu a Phrifysgol Abertawe. Rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog a darparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sydd o bryder i bob cymuned. Cyflawnir hyn gyda chymorth ein partneriaid. Eisoes, rydym wedi adeiladu perthynas waith ardderchog gyda nhw.

PC Tommy Swales 119

  • PC Tommy Swales yw Rheolwr Bît Plismona Bro ardal Talgarth.  Mae wedi bod yn Heddwas ers 1996, a bu’n gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli yn ystod y cyfnod hwnnw.  Cyn ymuno, roedd yn saer coed ac asiedydd; bu’n gweithio yn bennaf yn Llundain a thu hwnt, a threuliodd flwyddyn yn yr Unol Daleithiau.  Cafodd y fraint o gapteinio tîm pêl-droed a golff Heddlu Dyfed-Powys gan ddefnyddio ei brofiad fel sbortsmon brwd.  Mae hefyd wedi cynrychioli ei sir enedigol, Swydd Efrog, mewn pêl-droed, criced, athletau a nofio, a treuliodd gyfnod yn chwarae pêl-droed ar lefel uwch i dîm Darlington. Mae wedi byw yn yr ardal hon ers 1997 bellach; mae’n briod gyda dau o blant ac mae ei  wraig hefyd yn swyddog heddlu.  Dywedodd: “Rwy’n edrych ymlaen yn bennaf at weithio’n agos gyda’r gymuned leol; rwyf am leihau ofn trosedd a gwella ansawdd bywyd pobl.  Rwy’n credu y bydd fy mlynyddoedd o brofiad fel heddwas lleol o gymorth mawr i mi.  Rwy’n mwynhau siarad â’r gymuned leol ac i mi, mae bod allan ar y bît yn sgwrsio gyda’r bobl leol yn un o agweddau mwyaf boddhaol y rôl.”

PCSO Simon Beaton 8076

  • Ymunodd Simon â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2007. Mae’n mwynhau gweithio o fewn y gymuned ac ymdrin â phroblemau lleol. Mae’n gyfrifol am adrannau Crucywel a’r Gelli Gandryll.

Cyfarfodydd Bro

  • Swyddfa Blismona Talgarth
    Dydd Iau 21 Mehefin, 7:00pm - 8:00pm

Cymorthfeydd

  • Ar yr 2il ddydd Mawrth o’r mis rhwng 7:00 and 8:00pm.

    Swyddfa Blismona Talgarth