Hoffai Tîm Plismona Bro Llanfair-ym-Muallt ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi.
Llanfair-Ym-Muallt
Parcio ar Heol yr Ysbyty y tu allan i Ysgol Gynradd Llanfair-ym-Muallt
-
Dydd Mercher, Tachwedd 16, 2011Iau 24 Tach 2011Amh.
Mae swyddogion y Tîm Rheoli Bro wedi gweithio’n agos â phennaeth yr ysgol gynradd er mwyn lliniaru’r broblem hon. Mae gweithdrefnau newydd wedi’u rhoi ar waith gan yr ysgol ar gyfer gollwng y plant yn y bore, ac mae hyn wedi atal cerbydau rhag rhwystro palmentydd. Mae Tîm Plismona Bro Llanfair-ym-Muallt wedi anfon llythyr at rieni yn eu cynghori ynghylch troseddau a phatrolau a gynhelir gan swyddogion a swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu.
Goryrru ym mhentref Hundred House
-
Dydd Mercher, Tachwedd 16, 2011Iau 24 Tach 2011Amh.
Gwnaed ceisiadau i’r Uned Plismona’r Ffyrdd gynnal gwiriadau cyflymder yn y pentref ar adegau perthnasol. Rwyf wedi ymgysylltu ag Alan Davies o Gyngor Sir Powys, sydd wedi rhoi data o’r stribedi cyflymder a oedd wedi eu gosod yn 2007 i mi. Rwyf wedi gofyn am gael stribedi newydd er mwyn cael gwybodaeth fwy diweddar, ac rwyf hefyd wedi gofyn am ddefnydd o ddyfais dangos cyflymder yn y pentref.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanelwedd yn ystod digwyddiadau ar faes y Sioe Frenhinol
-
Dydd Mercher, Tachwedd 16, 2011Iau 24 Tach 2011Amh.
Mae Tîm Rheoli Bro Llanfair-ym-Muallt wedi creu dyddiadur digwyddiadau. Gwneir ceisiadau am staff ychwanegol yn y digwyddiadau hyn trwy gyfarfodydd tasgio a chydlynu. Anogir preswylwyr lleol yn Llanelwedd i alw pan fo rhywbeth yn digwydd.
Baw cŵn
-
Ar y Gro a thref Llanfair-ym-mualltDydd Llun, Chwefror 14, 2011Iau 24 Tach 2011Amh.
16/11/2011 - Dyma un o’r materion pwysicaf sydd yn dal i gael ei grybwyll mewn cyfarfodydd PACT. Rydym wedi gwneud pob peth posibl ar y cyd â’n partneriaid. Mae patrolau’n dal i gael eu cynnal yn rheolaidd gan swyddogion a swyddogion cefnogi cymunedol yr heddlu er mwyn adnabod unrhyw droseddwyr. Mae deiseb ar led gan y gymuned sy’n gofyn am fwy o swyddogion gorfodi. Byddant yn ei chyflwyno i Gyngor Sir Powys.
17/08/11 - Paratowyd a dosbarthwyd llythyr yn gofyn am gyd gynhyrchiad gyda phreswylwyr sy’n byw o gwmpas ardal y Gro a’r Lant (Heol y Gogledd, Pendre, Broadway, Stryd yr Eglwys). Cynhaliwyd trafodaethau gyda Rachel Palmer o fudiad Trefi Taclus, ac mae’r trafodaethau hynny’n parhau. Mae cyflenwadau o’r bagiau tafladwy a roddwyd am ddim gan y Cyngor yn rhedeg yn isel, ac mae’n partneriaid yn edrych ar hyn. Rydym yn parhau i weithio gyda’n partneriaid er mwyn dod o hyd i ateb hirdymor, ond gall gymryd peth amser gan fod rhaid inni ddod o hyd i ffynonellau cyllid newydd.
14/07/11 - Mae nifer o breswylwyr yn parhau i gwyno am y mater hwn. Rhoddwyd bagiau i ddal baw cŵn i nifer o breswylwyr fel eu bod yn gallu herio cerddwyr cŵn nad ydynt mewn rheolaeth o’u hanifeiliaid pan allan ar y Gro. Rwy’n ymwybodol fod deiseb ar fin cael ei llunio yn lleol er mwyn ymdrin ag unigolion mewn perthynas â’r mater hwn. Rwyf wedi siarad â nifer o breswylwyr i’w hannog i roi gwybodaeth i’r adran iechyd amgylcheddol er mwyn sicrhau erlyniad. Siaradwyd ag un perchennog ci am adael iddo redeg yn rhydd. Trwy ymgysylltu â Chyngor Sir Powys, cynhaliwyd trafodaethau gyda Threfi Taclus ynghylch trefnu digwyddiad bychan i godi ymwybyddiaeth ar y Gro un noson yn ystod yr haf.
Mer, Rhagfyr 21, 2011
Arolygydd Stuart Eckley 2002
Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.
PC Alison Fletcher 6
Ymunodd PC Alison Fletcher â’r Heddlu ym 1999 ac mae hi’n gweithio ar hyn o bryd yn Llanfair-ym-muallt. Dychwelodd hi i'r ardal ym 2005 yn dilyn cyfnod o weithio yn Uned Diogelu’r Cyhoedd yn Aberhonddu. Mae hi’n gweithio rhan amser yn ei rôl fel Swyddog Plismona Bro ers Ionawr 2008.
Cyfarfodydd Bro
-
Cyfarfod PACT Llanfair-ym-Muallt
Dewch i gwrdd â’ch swyddog rheoli bro lleol, y Cynghorydd Sir Avril York ac aelod o’r Cyngor Tref er mwyn trafod blanoriaethau plismona lleol.Neuadd y Strand -
Cyfarfod PACT Llanelwedd
Neuadd Jiwbilî, Llanelwedd
Cymorthfeydd
-
Mae Tîm Rheoli Bro Llanelwedd yn ceisio sefydlu cymorthfeydd rheolaidd ym marchnad y ffermwyr. Ceir manylion yma yn fuan. Rydym hefyd yn cynnal cymhorthfa ar stondin Sefydliad y Merched yng nghefn tafarn y Ceffyl Gwyn. Cynhelir y gymhorthfa hon bob pum wythnos gan gychwyn ar y 25ain o Chwefror 2011. Mae croeso i chi alw heibio i drafod unrhyw faterion lleol.
-
Swyddfa Cefnogi’r Gymuned, Llanfair-ym-Muallt
-
Iau 02 Chwef 2012darllen mwy >>
Dygwyd system lywio lloeren o gar a oedd wedi’i adael heb ei ddiogelu ar Broad...
-
Iau 15 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae ymholiadau’n cael eu cynnal wedi i becyn amheus gael ei riportio yn swyddfeydd Cyngor Sir...
-
Maw 13 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae’r heddlu yn Llandrindod yn ymchwilio i achos o ddifrod troseddol yng ngwesty’r Metropole ar...
-
Maw 13 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n gobeithio y daw tystion ymlaen ar ôl i gar Vauxhall Corsa lliw arian gael ei...
-
Gwen 04 Tach 2011darllen mwy >>
Er yn un o’r siroedd diogelaf yn y wlad, mae sawl achos o ddwyn defaid ar draws Sir Faesyfed...


