Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Trefyclo

Ymdrin â cherbydau sy’n goryrru trwy bentref Bugeildy

  • Cnwclas, Bugeildy, Felindre a Llangynllo
    Dydd Llun, Mawrth 28, 2011
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

Ymdrîn â gloddestwyr meddw yn hwyr y nos wrth iddynt adael tai cyhoeddus yng nghanol y dref

  • Trefyclo
    Dydd Iau, Ionawr 19, 2012
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

Arolygydd Stuart Eckley 2002

  • Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.

PC Bill Cowan 407

  • Mae PC Bill Cowan wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys ers 1994.  Ymunodd â Heddlu De Cymru ym 1980 a bu’n gweithio ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Porthcawl, canol dinas Caerdydd, Tre-biwt, Maesteg a Chaerau.  Ar ôl trosglwyddo i Heddlu Dyfed-Powys bu’n gweithio yn yr Adran Hyfforddi yn y Pencadlys cyn symud i Ganolfan Hyfforddi’r Heddlu yng Nghwmbrân.  Ers hynny mae wedi gweithio yn Aberhonddu, Crucywel, Llandrindod a Threfyclo.  Mae’n falch bod ei rôl gyfredol yn rhoi cyfle iddo wneud gwir wahaniaeth i fywydau pobl.

Cyfarfodydd Bro

  • Cyfarfod Trefyclo

    Neuadd Eglwys Sant Edward, Stryd yr Eglwys, Trefyclo
    Dydd Iau 15 Mawrth, 7:00pm
  • Cnwclas, Bugeildy, Felindre a Llangynllo

    Neuadd Gymunedol Cnwclas
    Dydd Mawrth 13 Mawrth, 7:00pm