Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Llandrindod Wledig

Y modd y mae defnyddwyr y ffordd yn gyrru - o oryrru hyd at ddefnyddio cerbydau allffordd.

  • Dydd Llun, Gorffennaf 11, 2011
    Llun 18 Gorff 2011

    Ar hyn o bryd, rydym yn casglu gwybodaeth am leoliadau sy’n achosi pryder er mwyn ystyried y mesurau mwyaf addas i’w gosod.

    Dros y misoedd nesaf, byddwn yn nodi lleoliadau lle y gellir defnyddio arwyddion sy’n dangos cyflymder cerbydau. Fe’u defnyddir mewn ardaloedd lle y mae cyfyngiad cyflymder o 40mya neu lai.

Llun, Chwefror 28, 2011

  • Tueddiadau Troseddu:

    Lladradau / Casglwyr Metel Sgrap

    Bu
    cynnydd yn y nifer o adeiladau sydd yn cael eu targedu yn yr ardal oherwydd
    gwerth metel sgrap. Gall yr adeilad fod yn fusnes gwledig, fferm, annedd neu yn
    fenter fasnachol, gyda’r chwarel leol yn enghraifft. Atgoffir pob preswylydd i
    riportio pob gweithgaredd amheus a phryderon i’r heddlu lleol ar y rhif ffôn
    difrys (101)

    Lladradau 0lew

    Nodwyd
    cynnydd mawr yn y nifer o ladradau disel ac olew gwresogi domestig. Gall unrhyw
    un sydd â phryderon neu sydd eisiau cyngor gysylltu â’u cyflenwyr olew neu
    cysylltwch â’r heddlu, eto ar 101.

    Cymorthfeydd

    Ar
    hyn o bryd, mae swyddogion yn ceisio sefydlu cymorthfeydd rheolaidd yn y marchnadoedd
    da byw trwy’r sir - Llanfair-ym-Muallt, Rhaeadr a Threfyclo. Rhoddir manylion
    unwaith y bydd hyn wedi ei wneud. 

Arolygydd Stuart Eckley 2002

  • Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.

PC Ailsa Lawton 971

  • PC Ailsa Lawton has worked in the Llandrindod Wells section since 2000, and before that spent two years in Brecon. In the past she was a rural officer and worked at Builth Wells and Knighton stations. She has spent time on the roads policing unit and continues to be interested in collision investigation and road safety matters.

Cymorthfeydd

  • Cynhelir cymhorthfa reolaidd ym marchnad Sefydliad y Merched yng nghefn y Ceffyl Gwyn, Llanfair-ym-Muallt, o’r 25ain o Chwefror 2011 rhwng 10 a 11am ac am 5 wythnos wedi hynny.

    Dydd Gwener 10 Chwefror, 10:00am - 11:00am
  • Hefyd, cynhelir cymorthfeydd yn archfarchnadoedd Llandrindod (Tesco, Aldi a Co-op) lle y gwahoddir preswylwyr i godi unrhyw faterion neu bryderon.