Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Llandrindod

Targedu cerbydau sy’n goryrru ar Ffordd Tremont a Ffordd Wellington yn Llandrindod

  • Dydd Iau, Mawrth 15, 2012
    Iau 22 Maw 2012
    Amh.

Gweithredu o leiaf un warant cyffuriau'r mis ar ôl derbyn cudd-wybodaeth gymunedol

  • Dydd Iau, Mawrth 15, 2012
    Iau 22 Maw 2012
    Amh.

Arolygydd Stuart Eckley 2002

  • Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.

PC Paul Dyer 661

  • Mae gan PC Paul Dyer un mlynedd ar hugain o wasanaeth i’r heddlu. Treuliodd y rhan fwyaf o’r gwasanaeth hwnnw fel swyddog rhawd lleol yn Powys. Fe drosglwyddodd i’r tîm ym mis Mehefin 2006.

PCSO Mike Davies 8052

  • Ymunodd PCSO Mike Davies â Heddlu Dyfed-Powys yn Aberhonddu yn Ionawr 2007, a throsglwyddo i Landrindod yn Nhachwedd 2009. Y mae’n mwynhau gweithio o fewn y gymuned ac ymdrin â phroblemau lleol, gan gynorthwyo i’w datrys. Cafodd ei fagu yn Llanelwy ond y mae nawr yn byw yn Llandrindod, ac yn y gorffennol bu’n gweithio i’r Fyddin Brydeinig ac i’r Post Brenhinol.

PCSO Caroline Powell 8050

  • Ymunodd PCSO Caroline Powell â thîm Llandrindod ym mis Ionawr 2007. Mae wedi bod yn swyddog gyda Heddlu Dyfed-Powys ers 1976, gan weithio yng ngorsaf heddlu’r Drenewydd tan 1988, ac yna fel Sarjant yng ngorsaf Llandrindod tan 2007. Mae’n mwynhau cerdded yn y gymuned gan siarad â phobl a datrys problemau lleol. Mae wedi byw yn yr ardal ers 1983 a chafodd ei merched eu haddysg yn lleol.

SC Gareth Morris 7008

  • Ymunodd Gareth Morris fel Cwnstabl Gwirfoddol ym mis Ionawr 2007. Mae’n dod o Drefyclo’n wreiddiol ond mae bellach wedi ymsefydlu yn Llandrindod. Mae Gareth yn mwynhau cyfarfod â’r cyhoedd a delio gyda’r wahanol sefyllfaoedd y mae’n dod ar eu traws yn ei waith.   Yn ei amser sbâr, mae’n mwynhau gwylio tîm pêl-droed Dinas Caerdydd, seiclo a cherdded y ci.

SC Marsh 7048

  • SC Marsh

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2011, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gymryd rhan mewn diogelu’r gymuned. Yn ystod yr wythnos, rwy’n gweithio fel peiriannydd coed yn Llanfair-ym-Muallt. Rwy’n angerddol am bêl droed ac yn cefnogi tîm Wolverhampton Wanderers.

Cyfarfodydd Bro

  • Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod

Cymorthfeydd

  • Siop Tesco, Llandrindod
    Dydd Llun 11 Mehefin, 10:00am
    Dydd Llun 11 Mehefin, 10:00am