Llanwrtyd
Ymddygiad gwrthgymdeithasol ar y sgwâr a’r grin yn ystod oriau mân y bore ac ar benwythnosau.
-
Dydd Iau, Mehefin 9, 2011Mer 27 Gorff 2011Amh.
27/07/11 - Cynhaliwyd patrolau yn Llanwrtyd gyda’r nos ar y
penwythnosau a siaradwyd â rhai
o’r plant. Byddaf yn parhau i
fonitro’r sefyllfa a gobeithiaf gael ymateb cadarnhaol i’m hadroddiad yn y Grapevine ynghylch defnyddio’r rhif
101. Rwyf wedi ymgysylltu â’r
adran drwyddedu ynghylch yr adroddiadau hyn a chewch ddiweddariad yn ystod y
misoedd nesaf.09/06/11 - Daeth i’m sylw fod problemau yn ystod y bore gyda rhywrai yn ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol (gall fod yn bobl ifanc lleol, neu rhai yn gadael tafarndai yn hwyr y nos); gan ymddwyn yn swnllyd, gweiddi, canu, taflu poteli ar y sgwâr ayyb. Rwyf wedi ymweld â thafarndai lleol a’u cynghori ynghylch yr ymddygiad niwsans hwn ar ôl oriau cau, yn arbennig ar ôl y digwyddiad lle yr oedd gwydr wedi torri ar y sgwâr. Byddaf yn parhau i ymweld â thafarndai lleol wrth batrolio’r dref gyda’r hwyr. Yn ystod y patrolau hyn, rwyf wedi siarad â nifer o bobl ifanc sydd yn ymgasglu ar y sgwâr. Roedd pob un ohonynt yn gyfeillgar ac yn hapus i siarad â swyddogion. Rhoddwyd geiriau o gyngor iddynt, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn honni nad nhw sydd allan am 3am. Rwyf hefyd wedi gofyn i bobl gysylltu â ni ar adeg y digwyddiad os oes problem. Ar hyn o bryd, ychydig iawn o alwadau a dderbynnir mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanwrtyd ar yr amserau hyn. Mae angen i bobl gysylltu â ni i riportio’r problemau hyn fel ein bod ni’n gallu gweld unrhyw broblemau wrth iddynt ddigwydd. Byddaf yn parhau i weithio ar y flaenoriaeth hon, ac rwy’n gobeithio y byddaf yn derbyn yr adroddiadau er mwyn gweithredu’n fwy cadarnhaol.
09/06/11 - Mae’r toiledau wedi eu cloi dros nos am fis bellach, ac yn ôl adroddiadau lleol, bu gostyngiad sylweddol iawn o ran ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal honno. Dim cwynion am bobl ifanc yn loetran gan greu sŵn ac achosi difrod pob awr o’r nos. Hefyd, cafwyd ymateb gadarnhaol wrth Gyngor Sir Powys. Dywedasant na fu cymaint o lanast i’w glirio o fewn y toiledau fel y bu o’r blaen, ac ni achoswyd difrod yno. Mae hyn oll yn bositif iawn, ac rwy’n hapus i ddod â’r flaenoriaeth hon i ben oni geir problemau pellach.
Goryrru drwy’r pentref.
-
Dydd Iau, Mehefin 9, 2011Mer 27 Gorff 2011Amh.
27/07/11 - Does dim mwy o wybodaeth gennyf ar hyn o bryd oddi
wrth asiantaeth y bartneriaeth camerâu. Maent yn dal i edrych ar safleoedd yn Llanwrtyd a
gobeithiwn weld fan mesur cyflymder yn y dref cyn bo hir.09/06/11 - Rwyf wedi siarad â Suzanne Davies o’r Bartneriaeth Camerâu Diogelwch. Maent yn dal i ystyried safle yn Llanwrtyd. Maent wedi coladu data Goryrru a Gwrthdrawiadau ar gyfer y dref, maent wedi edrych ar y ffactorau cymunedol e.e. lleoliadau ysgolion, siopau, tai ayyb, a nawr, maent yn ystyried arwyddion ar gyfer y dref. Mae problem fechan gyda rhai o’r arwyddion, ac maent wedi gofyn i Asiantaeth y Priffyrdd edrych ar hyn. Maent yn disgwyl canlyniad wrthynt ar hyn o bryd. Byddaf yn ceisio diweddariad yn ystod y mis nesaf.
Biniau sbwriel y tu allan i Bant y Celyn
-
Dydd Mercher, Gorffennaf 13, 2011Mer 27 Gorff 2011Amh.
27/07/11 - Rwyf wedi derbyn adroddiadau fod biniau sbwriel yn cael eu gadael y tu
allan i fflatiau Pant y Celyn am hyd at wythnos cyn cael eu casglu. Rwyf wedi siarad ag Adran Rheoli
Sbwriel y Cyngor ac maent wedi gofyn i ni roi gwybod iddynt os gwelir bagiau y
tu allan. Rwyf wedi dosbarthu
taflen wybodaeth i’r trigolion lleol ac wedi riportio dau ddigwyddiad i’r
cyngor. Ni dderbyniwyd unrhyw
adroddiadau pellach.
Goryrru yng Nghilmeri
-
Dydd Mercher, Gorffennaf 13, 2011Mer 27 Gorff 2011Amh.
27/07/11 - Derbyniwyd adroddiad gan gyngor Cilmeri bod cerbydau, yn enwedig lorïau
coed yn goryrru drwy’r pentref.
Rwyf wedi siarad ag adran priffyrdd y cyngor sy’n hapus i osod offer
cyfrif ym mis Medi.
Hysbyswyd Cyngor Cilmeri.
Gofynnwyd i Uned Plismona’r Ffyrdd fesur cyflymder cerbydau a siarad â
gyrwyr loriau yn yr ardal. Byddwn
yn parhau i fonitro’r mater hwn a rhoddir diweddariad pellach yn yr adroddiad
nesaf.
Parcio yn Heol Llanafan, Cilmeri
-
Dydd Mercher, Gorffennaf 13, 2011Mer 27 Gorff 2011Amh.
27/07/11 - Parcio yn Heol Llanafan. Byddaf yn trafod y problemau gyda thrigolion
lleol. Rhoddir diweddariad yn yr adroddiad nesaf.
Arolygydd Stuart Eckley 2002
Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.
PC Alison Fletcher 6
Ymunodd PC Alison Fletcher â’r Heddlu ym 1999 ac mae hi’n gweithio ar hyn o bryd yn Llanfair-ym-muallt. Dychwelodd hi i'r ardal ym 2005 yn dilyn cyfnod o weithio yn Uned Diogelu’r Cyhoedd yn Aberhonddu. Mae hi’n gweithio rhan amser yn ei rôl fel Swyddog Plismona Bro ers Ionawr 2008.
Cyfarfodydd Bro
-
Neuadd Fictoria, Llanwrtyd
-
Iau 02 Chwef 2012darllen mwy >>
Dygwyd system lywio lloeren o gar a oedd wedi’i adael heb ei ddiogelu ar Broad...
-
Iau 15 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae ymholiadau’n cael eu cynnal wedi i becyn amheus gael ei riportio yn swyddfeydd Cyngor Sir...
-
Maw 13 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae’r heddlu yn Llandrindod yn ymchwilio i achos o ddifrod troseddol yng ngwesty’r Metropole ar...
-
Maw 13 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n gobeithio y daw tystion ymlaen ar ôl i gar Vauxhall Corsa lliw arian gael ei...
-
Gwen 04 Tach 2011darllen mwy >>
Er yn un o’r siroedd diogelaf yn y wlad, mae sawl achos o ddwyn defaid ar draws Sir Faesyfed...


