Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Rhaeadr

Ymddygiad gwrthgymdeithasol a gyrru gwrthgymdeithasol

  • Maes parcio Lôn Dywyll, y toiledau a’r dref
    Dydd Mawrth, Medi 20, 2011
    Gwen 09 Maw 2012
    Amh.

    23/02/2012 - Derbyniwyd nifer o gwynion – Erbyn hyn, mae’r ardal wedi ei phatrolio’n rheolaidd gan swyddogion Sir Faesyfed
    Rhoddwyd cyngor llafar i bobl ifainc mewn perthynas â chreu niwsans o gwmpas y maes parcio a chicio peli trosed o gwmpas cerbydau wedi parcio.
    Rhoddwyd cyngor llafar i rai gyrwyr ifainc mewn perthynas ag ymgasglu yn ardal y maes parcio.
    Bellach, mae goleuadau stryd ynghynn drwy’r nos yn ardal maes parcio Lôn Dywyll.
    Mae’r dalwyr papur toiled wedi’u newid ym mloc y toiledau, felly nid oes modd mynd â’r rholiau papur toiled i ffwrdd bellach a’u taflu o gwmpas y cyffiniau.
     
    Cyflwynwyd salw ffurflen gyfeirio ymddygiad gwrthgymdeithasol i Gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cyngor Sir Powys. Ar hyn o bryd, maent yn cael eu trafod yng nghyfarfodydd misol Grŵp Datrys Problemau Sir Faesyfed.
    Mae’r Heddlu ac adran meysydd parcio’r Cyngor yn gweithio gyda’i gilydd er mwyn paratoi datrysiad hir dymor, gan gynnwys rhoi dogfennau cynghorol at ei gilydd er mwyn addysgu pobl sy’n camddefnyddio’r maes parcio ar gyfer gyrru gwrthgymdeithasol.

    20/09/11 - Derbyniwyd nifer o gwynion – patroliwyd yr ardal yn rheolaidd gan Swyddogion Sir Fynwy.

    Rhoddwyd cyngor ar lafar i nifer o bobl ifanc mewn perthynas â gyrru eu cerbydau mewn modd gwrthgymdeithasol.
     
    Cyflwynwyd nifer o ffurflenni cyfeirio ymddygiad gwrthgymdeithasol i Gydlynydd Ymddygiad Gwrthgymdeithasol Cyngor Sir Powys. Bydd llythyrau rhybudd yn cael eu hanfon.
     
    Rhoddwyd rhybuddion yr heddlu am achosion o yrru gwrthgymdeithasol.
     
    Mae ymholiadau’n parhau ar y cyd â swyddogion Plismona’r Ffyrdd Powys a swyddogion Rheoli Bro Sir Fynwy.

Maw, Mawrth 29, 2011

  • *NEWYDD* Cymhorthfa Heddlu a Chyngor Rhaeadr

    Oes gennych chi unrhyw bryderon ynghylch materion yn eich cymuned?

    Hoffech chi siarad â’ch Swyddog Heddlu neu’ch Cynghorydd Sir lleol yn gyfrinachol?

    Fel rhan o’n hymroddiad i’ch cymuned chi, mae Heddlu Dyfed-Powys a Chyngor Sir Powys yn rhoi cyfle i breswylwyr Rhaeadr a’r ardaloedd cyfagos i sgwrsio â nhw ar sail misol. Bydd swyddog Rheoli Bro Heddlu Rhaeadr, PC 927 Charlie Jones, a Chynghorydd Sir Rhaeadr, Mr Kelvin Curry, ar gael o fewn ‘The Arches’, Canolfan Gymuned, West Street, Rhaeadr ar y dyddiadau canlynol:

    • 4ydd Mai 1300awr – 1400awr
    • 8fed Mehefin                 “
    • 6ed Gorffennaf              “
    • 3ydd Awst                      “

    Galwch heibio am sgwrs gyfrinachol. Os nad oes modd i chi fynd i’r cymhorthfa, gadewch eich manylion gyda Carolyn neu Shirley o fewn Cymorth Cymunedol Rhaeadr (01597 810921) a bydd naill ai Charlie neu Kelvyn yn cysylltu â chi. Fel arall, cysylltwch â ni trwy anfon e-bost at charlie.jones@dyfed-powys.pnn.police.uk, neu galwch Heddlu Dyfed-Powys ar 101 a gadewch neges.

Arolygydd Stuart Eckley 2002

  • Dyrchafwyd Stuart Eckley i reng Arolygydd yn Llandrindod ym mis Awst 2007. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Rhagfyr 1989 ac ers hynny, mae wedi gweithio yn Aberhonddu a’r Gelli. Yn fab i ffermwr, ganwyd a magwyd Stuart ger Aberhonddu, ac mae’n byw yn awr yn Llanfair-ym-Muallt. Mae’n mwynhau’r cyfle i fynd am lonc a chlonc yn y gymuned. Yn ei amser hamdden, mae Stuart yn mwynhau golff, jiwdo, paentio ac arlunio, a garddio.

Cyfarfodydd Bro

  • Yn bresennol: Swyddogion Tîm Rheoli Bro Rhaeadr: PC 927 Jones, PCSO 8050 Powell

    Cynghorydd Sir Rhaeadr Mr Kelvyn Curry

    Cymorth Cymunedol Rhaeadr a’r Cylch, Stryd y Gorllewin, Rhaeadr

Cymorthfeydd

  • Bydd swyddog Rheoli Bro Heddlu Rhaeadr, PC 927 Charlie Jones, a Chynghorydd Sir Rhaeadr, Mr Kelvin Curry, ar gael o fewn ‘The Arches’, Canolfan Gymuned, Stryd y Gorllewin, Rhaeadr.

    Cynhaliwyd y cymorthfeydd ar sail anffurfiol gan roi cyfle i aelodau’r gymuned siarad yn gyfrinachol â phwy bynnag y mynnant.

    ‘The Arches’, Canolfan Gymuned, Stryd y Gorllewin