Parc Sgrialu Llanidloes - ymwelwyd â’r lleoliad yn rheolaidd yn ystod mis Mawrth. Gwnaed un arést am feddiant cyffuriau diolch i blismona rhagweithiol.
Mae PS Barrett yn paratoi asesiad effaith cymunedol ar gyfer Gŵyl Gwisg Ffansi Llanidloes a gynhelir ar y 1af o Orffennaf 2011. Dylai unrhyw un sydd yn pryderu am y digwyddiad gysylltu â PS Barrett drwy ffonio 101 neu e-bostio ian.barrett@dyfed-powys.pnn.police.uk neu, fel arall, ewch i un o’r cymorthfeydd a gynhelir bob pythefnos yn llyfrgell Llanidloes.




