Machynlleth
Yfed tan-oed / ymddygiad gwrthgymdeithasol
-
Dydd Llun, Tachwedd 29, 2010Gwen 09 Maw 2012Amh.
12/07/11 - Patrolau amlwg o gwmpas tir y Plas/standiau pêl-droed.
Atafaelwyd alcohol yn yr ardaloedd a nodwyd fel rhai a oedd yn achosi pryder. Cafwyd cefnogaeth gan aelodau o’r gymuned wrth iddynt roi gwybodaeth a chynorthwyo wrth fynd ag alcohol wrth bobl ifanc dan oed.
09/06/11 - Cynhaliwyd patrolau gweladwy yn y standiau pêl-droed ac ati er mwyn monitro ac atafaelu unrhyw alcohol ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol. Ni nodwyd unrhyw broblemau.
11/05/11 - Mae patrolau amlwg wedi parhau o gwmpas tir y Plas/standiau pêl-droed yn ystod oriau perthnasol.
Defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau
-
Dydd Llun, Tachwedd 29, 2010Gwen 09 Maw 2012Amh.
12/07/11 - Derbyniwyd cwynion mewn perthynas â defnydd gwrthgymdeithasol o gerbydau yn ardal Llyn yr Arglwydd Herbert a Choedwig Dyfi.
Ymwelwyd ag ardal Coedwig Dyfi ar sawl achlysur gyda chynrychiolwyr o’r Comisiwn Coedwigaeth. Hefyd, mae cyfarfod i’w gynnal gyda’r Uwch Swyddog Hawliau Tramwy a Mynediad er ymdrin â’r mater yn ymwneud ag ardal Llyn yr Arglwydd Herbert fel partneriaeth.
09/06/11 - Parhawyd i batrolio’r meysydd parcio a’r strydoedd lle y defnyddiwyd cerbydau mewn modd gwrthgymdeithasol. Ni nodwyd unrhyw broblemau.
11/05/11 - Patrolau parhaus yn yr ardaloedd lle y defnyddir cerbydau mewn modd gwrthgymdeithasol. Ni roddwyd unrhyw rybuddion yn ystod mis Ebrill.
Materion parcio a cherbydau’n achosi rhwystr ar Heol y Doll
-
Dydd Iau, Chwefror 23, 2012Gwen 09 Maw 2012Amh.
PC Kieran Day 302
Ymunodd PC Kieran Day â Heddlu Dyfed-Powys ym 1998 ar ôl cwblhau 22 blynedd o wasanaeth yn y Fyddin lle y bu’n gwasanaethu gyda’r Gatrawd Parasiwt. Ers ymuno â’r Heddlu, mae Kieran wedi gweithio fel Swyddog Bît a Swyddog Ymateb Arfog. Yn flaenorol, fe’i lleolwyd yn Aberystwyth, Machynlleth a’r Trallwng.
Ymgymerodd PC Day â rôl swyddog Tîm Plismona Bro ym mis Ionawr 2012 a dyma’r ail dro iddo wasanaethu cymunedau Machynlleth a Llanbrynmair. Bydd yn ymroddedig tuag at fynd i’r afael â materion lleol a sicrhau bod yr ardal yn parhau’n un o’r llefydd mwyaf diogel i fyw, gweithio ac ymweld ag ef yng Nghymru a Lloegr.
PCSO Caron Monk 8074
Yn ei swydd fel Swyddog Cefnogi Cymuned yr Heddlu (PCSO) mae Caron Monk yn defnyddio ei gwybodaeth leol eang er budd cymunedau Machynlleth. Yn dilyn ymlaen o’i phrofiad blaenorol fel Nyrs Gymunedol, nod Caron yw cynorthwyo i ddatrys y problemau sy’n effeithio ar aelodau o’r gymuned leol.
Cyfarfodydd Bro
-
Ystafell Hyfforddi CAMAD, Forge Road, Machynlleth
-
Canolfan Hamdden Bro DdyfiDydd Mercher 23 Mai, 7:00pm
-
Iau 22 Maw 2012darllen mwy >>
Mae ymholiadau’n parhau i wrthdrawiad traffig y ffyrdd difrifol a ddigwyddodd ar yr A483 rhwng...
-
Mer 21 Maw 2012darllen mwy >>
Mae heddlu’r Trallwng yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad traffig y ffyrdd difrifol a...
-
Mer 14 Maw 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n bryderus iawn ynghylch lles dyn 78 oed sydd wedi bod ar goll o’i gartref...
-
Maw 13 Maw 2012darllen mwy >>
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn poeni am leoliad dyn 78 oed, sef John William Davies. Fe’i...
-
Maw 28 Chwef 2012darllen mwy >>
Am oddeutu 2.15pm ar ddydd Llun 27ain Chwefror 2012 digwyddodd gwrthdrawiad difrifol ar ffordd y...


