Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

y Drenewydd

Defnyddio beiciau mewn modd gwrthgymdeithasol.

  • Dydd Llun, Medi 19, 2011
    Llun 19 Medi 2011

    Mae swyddogion y Tîm Rheoli Bro yn
    ceisio atal beiciau rhag cael eu reidio ar balmentydd yng nghanol y dref
    er mwyn lleihau’r perygl o ddamweiniau.

Lladradau o gerbydau modur heb ofalydd.

  • Dydd Llun, Medi 19, 2011
    Llun 19 Medi 2011

    Yn ogystal â chynyddu patrolau, gweithredir y cynllun Dan Glo ac o’r Golwg er mwyn atal lladradau o gerbydau.

Baw cŵn.

  • Dydd Llun, Medi 19, 2011
    Llun 19 Medi 2011

    Mae lleihau baw cŵn yn parhau’n
    flaenoriaeth gan y cyhoedd. Datganiad i’r wasg / posteri a ‘Fy Mhowys’
    ar-lein i’w defnyddio. Trefnwyd bod y glanhawyr stryd yn glanhau unrhyw
    fannau problemus a gosod posteri.

Mer, Ebrill 20, 2011

  • Mae Cyngor y Drenewydd yn cynnal digwyddiad ‘Hanes y Drenewydd’ ar ddydd Sul y 1af o Fai o 10am tan 5pm ym mharciau’r dref a maes parcio’r orsaf bws. Bydd stondin gan y Tîm Rheoli Bro yno. Croeso i unrhyw un ddod i helpu, neu i gael cyngor neu sgwrs.

    Hefyd, bydd sioeau a fydd yn ail-greu hanes, gweithgareddau i blant, hen geir a llawer mwy.

Arolygydd Tatton 2097

  • Inspector Tatton

    Ymunodd yr Arolygydd Tatton â Heddlu Llundain ym 1990, a throsglwyddodd i Heddlu Dyfed-Powys yn 2000. Mae wedi cael gyrfa amrywiol gyda CID ac mewn lifrau. Bu’n byw yn Aber-miwl ers 2001, felly mae ganddo wybodaeth helaeth o’r Drenewydd a’r cyffiniau. Mae’n gobeithio ymgymryd â’i rôl fel Arolygydd lleol trwy gefnogi’r Timoedd Plismona Bro yn llawn i integreiddio eu hunain i’w cymunedau unigol, creu cymunedau mwy diogel, darparu boddhad cwsmeriaid a pharhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.

Sarjant Jonathan Rees 983

  • Fel Goruchwylydd y Tîm Plismona Bro, mae Sarjant Jonathan Rees yn gyfrifol am weithredu a chyflwyno ‘Plismona Cymunedol’ ledled Sir Drefaldwyn. Gan dynnu ar y profaid a enillodd dros gyfnod o dair blynedd ar ddeg yn gweithio yn CID, y Tîm Cyffuriau, y Tîm Targedu Troseddau Ceir, Cudd-wybodaeth a Chudd-wylio, mae Jonathan yn awyddus i sicrhau atebion i’r amryw o broblemau cymunedol y mae’n dod ar eu traws.

PC Rashmita Wharton 883

  • PC Rashmita Wharton yw rheolwr bît newydd y Drenewydd, gan gymryd drosodd oddi wrth PC Wyn Rees sydd wedi hongian ei sgidiau ac ymddeol. Mae gan Rashmita 17 blynedd o brofiad ac mae wedi gweithio gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr, yn rhanbarth Sir Benfro, yn y Trallwng ac i’r Swyddfa Gartref.  Mae ‘Rash’, fel y’i gelwir gan y rhan fwyaf o bobl, yn awyddus i ddefnyddio ei phrofiad er mwyn datrys problemau lleol.

PCSO Graham Jennings 8007

  • Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO) dros y Drenewydd, mae Graham hefyd yn gyfrifol am Dreowen, Garthowen, Maesyrhandir a Mochdre. Fel aelod o’r gymuned leol, mae Graham wedi sefydlu cysylltiadau pwysig gyda phartner-asiantaethau a sefydliadau lleol gyda’r nod o sicrhau atebion i broblemau lleol.

PCSO Hannah Edwards 8077

  • Bu’r PCSO Hannah Edwards yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Llanidloes ac yna aeth i Goleg Powys yn y Drenewydd i wneud Diploma Cenedlaethol mewn Celfyddydau Perfformio. Pan oedd yn y Coleg bu’n gweithio ochr yn ochr â heddlu Dyfed-Powys ar brosiect Theatr mewn Addysg a dyna ble y cychwynnodd ei diddordeb yng Ngwasanaeth yr Heddlu. Ymunodd â Heddlu Dyfed-Powys fel Cwnstabl Gwirfoddol yn 2008 a bu’n gweithio yn ardal Y Drenewydd.  Wrth iddi gyflawni’r rôl hon, cafodd brofiad o waith yr heddlu a dysgodd mwy am blismona. O ganlyniad, fe’i hysbrydolwyd i ddilyn gyrfa gyda Heddlu Dyfed-Powys a gwneud gwahaniaeth yn y gymuned.

Cyfarfodydd Bro

  • Neuadd Gymunedol Treowen
  • Cynhelir Cyfarfod Cymunedol Maesyrhandir ar ddydd Iau olaf pob mis am 7pm.

    Ar safle Cychwyn Cadarn, Skylark Way
    Dydd Iau 23 Chwefror, 7:00pm

Cymorthfeydd

  • Cynhelir cyfarfodydd bob yn ail ddydd Mawrth gan gychwyn ar yr 21ain o Fehefin 2011

    Man Gwasanaethau Cwsmer Cyngor Sir Powys, Lôn Gefn, y Drenewydd