Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

y Drenewydd Wledig

Lôn Hen Domen – Heol Mynediad yn Unig. Cerbydau’n defnyddio’r heol fel llwybr tarw.

  • Dydd Mawrth, Mawrth 8, 2011
    Mer 14 Maw 2012
    Amh.

    12/03/2012 - Ceisiadau i stopio cerbydau sy’n defnyddio Lôn Wernddu yn y Drenewydd fe llwybr byr. Problemau tebyg yn Hendomen. Heolydd mynediad yn unig yw’r ddwy.

    20/04/11 - Targedwyd Lôn Hen Domen gan swyddogion oherwydd cwynion a dderbyniwyd gan breswylwyr ynghylch cerbydau’n defnyddio’r heol Mynediad yn Unig fel llwybr tarw. Bydd swyddogion heddlu’n parhau i ymweld â’r ardal. Mae ymweliad mewn partneriaeth ag Adran Briffyrdd Cyngor Sir Powys yn cael ei drefnu.

    08/03/11 - Targedwyd Lôn Hen Domen gan swyddogion oherwydd cwynion a dderbyniwyd gan breswylwyr ynghylch cerbydau’n defnyddio’r heol Mynediad yn Unig fel llwybr tarw. Bydd swyddogion heddlu’n parhau i ymweld â’r ardal.

Mae’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn gofyn am ymweliadau achlysurol ag Adfa a Chefn Coch er mwyn cynnal gwiriadau cyflymder

  • Cefn Coch
    Dydd Mercher, Tachwedd 2, 2011
    Mer 14 Maw 2012
    Amh.

    12/03/2012 - Gofynnwyd am wiriadau cyflymder yn Adfa a Chefn Coch.

Ymgysylltu â Thraffyrdd Cyngor Sir Powys mewn perthynas ag arwyddion llywio â lloeren ar gyfer Llandyssil. Targedu ceir sy’n rasio drwy Llandyssil ar nos Fawrth a nos Fercher am oddeutu 10pm yn ogystal â phenwythnosau

  • Llandyssil
    Dydd Mercher, Tachwedd 2, 2011
    Mer 14 Maw 2012
    Amh.

    12/03/2012 - Gyrru gwrthgymdeithasol ar nos Fawrth, nos Fercher a gyda’r nos ar benwythnosau yn Llandyssil a’r cyffiniau.

Ymddygiad gwrthgymdeithasol gan bobl ifainc yn Nhrefaldwyn gyda’r hwyr ar benwythnosau

  • Nhrefaldwyn
    Dydd Llun, Mawrth 12, 2012
    Mer 14 Maw 2012
    Amh.

    12/03/2012 - Mae Tîm Plismona Bro’r Drenewydd wedi arestio a chyhuddo dyn o ddwyn cerdyn debyd ac arian. Roedd hyn mewn cysylltiad â dynes oedrannus a thargedwyd yn Nhrefaldwyn.

Arolygydd Tatton 2097

  • Inspector Tatton

    Ymunodd yr Arolygydd Tatton â Heddlu Llundain ym 1990, a throsglwyddodd i Heddlu Dyfed-Powys yn 2000. Mae wedi cael gyrfa amrywiol gyda CID ac mewn lifrau. Bu’n byw yn Aber-miwl ers 2001, felly mae ganddo wybodaeth helaeth o’r Drenewydd a’r cyffiniau. Mae’n gobeithio ymgymryd â’i rôl fel Arolygydd lleol trwy gefnogi’r Timoedd Plismona Bro yn llawn i integreiddio eu hunain i’w cymunedau unigol, creu cymunedau mwy diogel, darparu boddhad cwsmeriaid a pharhau i weithio mewn partneriaeth ag asiantaethau eraill.

PC Huw Morgan 653

  • Ymunodd PC Huw Morgan â Heddlu Dyfed-Powys yn 1990. Ef yw’r Rheolwr Bît ar gyfer y cymunedau gwledig sy’n gorwedd y tu allan i dref y Drenewydd. Yn y gorffennol, mae Huw wedi gweithio yn y Drenewydd a’r Trallwng fel Swyddog Gwledig ac fel aelod o Uned Dargedu Powys. Mae Huw hefyd wedi gweithio am gyfnod helaeth yn Uned Plismona’r Ffyrdd ac mae yn awr yn tynnu ar y profiad hwnnw wrth geisio datrys materion traffig yn y Cymunedau Gwledig dan ei ofal.

PCSO Gwyn Bufton 8049

  • Yn rhinwedd ei swydd fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO), mae Gwyn Bufton yn gyfrifol am y cymunedau gwledig o amgylch Y Drenewydd. Gan gydweithio’n agos gyda PC Morgan (Rheolwr Bît Gwledig), mae Gwyn yn awyddus i gyfarfod ag aelodau o’r gymuned yn rheolaidd, ac mae’n gwneud hynny trwy ddefnyddio’r Orsaf Heddlu Symudol. Mae gan Gwyn brofiad blaenorol o ddelio â chwsmeriaid ac mae’n awyddus i chwarae rôl weithredol wrth ddatrys problemau lleol.

Cyfarfodydd Bro

  • Ceri, Sarn, Dolfor, Mochdre -hefyd yn bresennol fydd Rheolwr Diogelwch Ffyrdd yr ardal ar ran Cyngor Sir Powys.

    Canolfan Gymunedol Ceri
  • Trefaldwyn, Yr Ystog, Aber-riw.

    Neuadd y Dref, Trefaldwyn
  • Aber-miwl, Llandysul.

    Canolfan Gymunedol Aber-miwl
  • Betws, Tregynon, Felin Newydd, Aberhafesb, Adfa.

    Neuadd Gymunedol Betws

Cymorthfeydd

  • Gorsaf Heddlu Symudol, Trefaldwyn, Neuadd y dref
  • Gorsaf Heddlu Symudol, 10.30am hyd at 12.30pm

    Tuffins, Yr Ystog
  • Gorsaf Heddlu Symudol, 10.30am hyd at 12.30pm

    Aber-miwl - Ger y siop
  • Gorsaf Heddlu Symudol, 10.30am hyd at 12.30pm

    Ceri - Ger y neuadd
  • Gorsaf Heddlu Symudol, 10.30am hyd 12.30pm

    Aber-riw - Ger yr eglwys
  • Gorsaf Heddlu Symudol, 10.30am hyd at 12.30pm

    Tregynon - Ger yr ysgol