Cynhaliwyd cymorthfeydd cymunedol yn yr Orsaf Heddlu Symudol yn Llanfair. Cawsom ymateb da gan drigolion yr ardal.
Mae’r heddlu’n parhau i weithio mewn partneriaeth gydag adran dai Cyngor Sir Powys er mwyn datrys ffrae rhwng cymdogion.
Cynhaliwyd patrolau rheolaidd yn y dref, ar droed ac mewn cerbyd, yn dilyn difrod i ffenestr eglwys yn ddiweddar.
Arestiwyd dyn lleol yn dilyn ymosodiad mewn tafarn yn y dref. Mae e wedi derbyn gorchymyn llys am ymosodiad cyffredin.
Derbyniwyd 6 galwad mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans). Mae pob un ohonynt yn ymwneud â ffrae rhwng cymdogion. Rydym ni, ynghyd â’n Hasiantaethau Partner, yn delio â hyn.
Ni dderbyniwyd adroddiadau am ladradau, byrgleriaethau, gwrthdrawiadau traffig y ffyrdd na throseddau’n gysylltiedig â chyffuriau.
Rydym yn annog aelodau’r gymuned i gysylltu â’r heddlu’n syth ar y rhif difrys 101 os ydynt yn gweld unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y dref. Os ydynt yn credu bod y mater yn fwy difrifol, dylid galw 999.
Llanfair Caereinion
Patrolau amlwg yn ardal y dref, yn arbennig tir yr Eglwys.
-
Dydd Mawrth, Awst 30, 2011Sul 13 Tach 2011Amh.
08/11/2011 -
• Cynhaliwyd patrolau amlwg ar droed yn ardal yr eglwys. Stopiwyd a chwiliwyd unigolyn ifanc a darganfuwyd canabis yn ei feddiant. Derbyniodd rybudd canabis.
• Cynhaliwyd patrolau ger ffynnon y Santes Fair ac atafaelwyd alcohol wrth griw o bobl ifanc.
• Cynhaliwyd ymweliadau ag ysgolion gan y Swyddog Cyswllt Ysgolion mewn perthynas â nosweithiau Calan Gaeaf a Thân Gwyllt.
• Siaradwyd â pherchnogion siop a dosbarthwyd posteri mewn perthynas â gwerthu blawd ac wyau i bobl ifanc adeg Calan Gaeaf er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
• Cynhaliwyd Ymgyrch Cyflymder gan yr Uned Plismona’r Ffyrdd a’r Tîm Plismona Bro ym mhentref Meifod gyda phlant o Ysgol Gynradd Meifod a Swyddog Diogelwch y Ffyrdd Cyngor Sir Powys. Rhoddwyd un tocyn.
• Cynhaliwyd patrolau mewn ardaloedd allweddol yn y dref.
Llun, Gorffennaf 18, 2011
Sarjant Darren Brown 144
Ymunodd Sarjant Darren Brown â Heddlu Dyfed/Powys ym 1990. Treuliodd ei yrfa hyd yn hyn yn Sir Drefaldwyn a bu’n gweithio fel swyddog ymateb, Sarjant y Ddalfa ac mewn rôl oruchwyliol. Symudodd Darren o’r Drenewydd i’r Trallwng fel Goruchwylydd y Tîm Rheoli Bro ym mis Medi 2010.
‘Rwyf yn oruchwylydd dros Dîm Rheoli Bro’r Trallwng sy’n cwmpasu ardaloedd Y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Nod ein tîm yw gwella ein dulliau ymgysylltu a rhoi mwy o gefnogaeth i’n cymunedau a’r asiantaethau partner er mwyn darparu presenoldeb amlwg a datrys y materion sy’n cael effaith ar fywyd beunyddiol ein cymunedau’.
PC Gayle Jones 733
Ymunodd y Cwnstabl Gayle Jones â Heddlu Dyfed Powys ym 1996 ac mae wedi gweithio yng Ngogledd Sir Drefaldwyn drwy gydol ei gyrfa. Ymunodd â’r Tîm Rheoli Bro ym mis Mawrth 2011 a hi sy’n gyfrifol am ardal Llanfair Caereinion.
‘Fy nod yw gweithio ar y cyd â’n partneriaid er mwyn cynorthwyo’r gymuned i ddatrys y problemau sy’n cael effaith andwyol ar fywydau pobl o ddydd i ddydd.’
PCSO Tomas Milne 8087
Mae PCSO Tom Milne yn dod yn wreiddiol o’r Trallwng; bu’n astudio ym Mhrifysgol Abertawe ac enillodd radd mewn Hanes yn 2007. Mae wedi gweithio yn y sector manwerthu yng Ngogledd Swydd Amwythig. Mae’n bêl-droediwr a golffiwr brwd, ac yn mwynhau pob math o chwaraeon. Mae’n disgwyl ymlaen at wneud gwahaniaeth yn ardal Caerfyrddin a bydd yn ceisio mynd i’r afael â phroblemau lleol megis ymddygiad gwrthgymdeithasol a chŵn yn baeddu. Mae Tom wrth ei fodd yn gweithio yng Nghaerfyrddin ac meddai “Mae gweithio i Heddlu Dyfed-Powys yn gyffrous ac rwy’n gobeithio mynd ymlaen i gael gyrfa fel heddwas”.
PCSO Sarah Bebb 8055
Rhif Coler: 8055
Fel rhan o’i rôl fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO), mae Sarah Bebb hefyd yn gyfrifol am sefydlu cysylltiadau ag ysgolion yn y gymuned. Gan dynnu ar ei phrofiad blaenorol fel Cwnstabl Gwirfoddol yn yr ardal hon, mae hi’n awyddus i helpu’r gymuned ehangach.
SC Tim Westlake 7015
SC Giles George
SC Norman Williams
SC Richard Waldron 7075
Ymunodd y Cwnstabl Gwirfoddol Richard Waldron â Thîm Rheoli Bro’r Trallwng ym mis Gorffennaf 2007. Mae Richard yn gyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng ac mae newydd ennill gradd BSc mewn Gwyddor Plismona ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae Richard yn byw yn lleol ac yn mwynhau gweithio yn y gymuned lle y magwyd ef.
SC Paul Rutter
Cymorthfeydd
-
Gorsaf Heddlu Caereinion, Llanfair Caereinion
-
Maw 07 Chwef 2012darllen mwy >>
Dywed heddlu’r Trallwng fod dwy warant gyffuriau wedi’u gweithredu ym mis Ionawr lle y daeth...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae heddlu’r Trallwng yn ymchwilio i achos o ddifrod troseddol a ddigwyddodd rhwng 6.30pm ar nos...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n cynnal ymholiadau yn dilyn byrgleriaeth o sied yng nghefn tŷ ar Glos Criggion,...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae dwy fyrgleriaeth, un ohonynt yn ymgais aflwyddiannus, yn cael eu hymchwilio gan swyddogion...
-
Mer 01 Chwef 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion yn y Trallwng yn ymchwilio ar ôl i rywun neu rywrai dorri mewn i’r hen hufenfa yn...


