Cynhaliwyd patrolau yn yr ardal gyda’r hwyr yn dilyn pryderon gan breswylwyr lleol ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal y maes chwarae, y cae pêl droed a’r ysgol. Ni dderbyniwyd cwynion pellach.
Rydym yn parhau i weithio ar y cyd â Chyngor Sir Powys er mwyn mynd i’r afael â materion yn ymwneud â chnocio ar ddrysau yn ardal Llanrhaeadr. Gweithgareddau ar y cyd parhaus gydag adran dai Cyngor Sir Powys a’r Fan Bobi er mwyn rhoi stop ar y materion hyn sydd wedi bod yn broblem ers amser hir.
Un galwad yn unig a dderbyniwyd mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans).
Ni riportiwyd unrhyw achos o fyrgleriaeth i’r heddlu. Riportiwyd 4 byrgleriaeth a 4 digwyddiad amheus.
Byddwn yn edrych i mewn i gynnal diwrnod Marcio Eiddo yn Llanfyllin o ganlyniad i’r achosion diweddar o ddwyn beiciau yn yr ardal.






