Ar nos Lun yr 11eg o Orffennaf, cynhaliwyd cyfarfod cymunedol yng Nghanolfan Gymunedol Cegidfa. Yn ystod y cyfarfod, penderfynwyd mai’r flaenoriaeth ar gyfer y misoedd nesaf fydd mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol o gwmpas y ganolfan gymunedol a’r maes chwarae.
Trallwng Wledig
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn ardal Llanymynech
-
Dydd Mercher, Chwefror 9, 2011Gwen 18 Mai 2012Amh.
17/05/2012 - Patrolau Gwelededd Uchel yn Llanymynech.
04/03/2012 - Taflwyd tri dyn allan o dŷ cyhoeddus yn Llanymynech. Roedd yr heddlu’n bresennol ac ataliwyd digwyddiad trefn gyhoeddus.
16/02/2012 - Ni fu unrhyw adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans) yng Nghegidfa, a dim ond un alwad a dderbyniwyd yn Nhreberfedd, Trewern a Llanymynech.
Riportiodd ein partneriaid, y Tîm Plismona’r Ffyrdd, eu bod wedi stopio un dyn o ardal Llanymynech a darganfuwyd nad oedd ganddo drwydded.
Parhawyd â phatrolau mewn mannau problemus er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghegidfa (yn benodol, ardal yr ysgol a’r maes cymunedol a hamdden).
-
Dydd Mercher, Chwefror 9, 2011Gwen 18 Mai 2012Amh.
17/05/2012 - Patrolau Gwelededd Uchel yng Nghegidfa o amgylch ardal yr eisteddle a’r ysgol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
04/03/2012 - Bu Tîm Plismona Bro’r Trallwng yn bresennol yn y farchnad da byw er mwyn ymgysylltu â busnesau â’r gymuned ffermio leol.
Cynhaliwyd patrolau yn yr ardaloedd sydd wedi’u nodi fel mannau problemus yn ardal Cegidfa. Ni riportiwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Gwarchod Ffermydd dal yn cael ei wthio ymlaen mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae uwch swyddogion yn ystyried ffyrdd o roi’r system ar waith er mwyn gweithio’n effeithiol â systemau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.20/02/2012 - Mae patrolau’n cael eu cynnal yn yr ardaloedd allweddol yng Nghegidfa.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol ym Mharc Caradog, Trewern
-
Dydd Sul, Mawrth 6, 2011Gwen 18 Mai 2012
Cynhaliwyd cyfarfod PACT (Partneriaid a Chymunedau yn Cydweithio) yn Nhrewern. Roedd yn gyfarfod llwyddiannus gydag 20 o aelodau yn bresennol i drafod unrhyw faterion/bryderon a godwyd ganddynt. Mae’r swyddogion yn awr yn targedu’r ardal hon wrth batrolio.
17/05/2012 - Patrolau Gwelededd Uchel o amgylch ystadau preswyl Trewern er mwyn gostwng ymddygiad gwrthgymdeithasol.
04/03/2012 - Bu Tîm Plismona Bro’r Trallwng yn bresennol yn y farchnad da byw er mwyn ymgysylltu â busnesau â’r gymuned ffermio leol.
Cafodd pum unigolyn ifanc o Barc Caradog eu dal yn achosi difrod i ffens yn Nhrewern. Cyflwynwyd cyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol i’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol.
Mae Gwarchod Ffermydd dal yn cael ei wthio ymlaen mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae uwch swyddogion yn ystyried ffyrdd o roi’r system ar waith er mwyn gweithio’n effeithiol â systemau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.20/02/2012 - Cafodd pump o bobl ifainc eu dal yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol y tu ôl i hen adeilad Little Chef; siaradwyd â phob un ohonynt ym mhresenoldeb eu rhieni. Cyflwynwyd cyfeiriadau ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn perthynas â phob ohonynt.
Mer, Gorffennaf 20, 2011
Sarjant Darren Brown 144
Ymunodd Sarjant Darren Brown â Heddlu Dyfed/Powys ym 1990. Treuliodd ei yrfa hyd yn hyn yn Sir Drefaldwyn a bu’n gweithio fel swyddog ymateb, Sarjant y Ddalfa ac mewn rôl oruchwyliol. Symudodd Darren o’r Drenewydd i’r Trallwng fel Goruchwylydd y Tîm Rheoli Bro ym mis Medi 2010.
‘Rwyf yn oruchwylydd dros Dîm Rheoli Bro’r Trallwng sy’n cwmpasu ardaloedd Y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion. Nod ein tîm yw gwella ein dulliau ymgysylltu a rhoi mwy o gefnogaeth i’n cymunedau a’r asiantaethau partner er mwyn darparu presenoldeb amlwg a datrys y materion sy’n cael effaith ar fywyd beunyddiol ein cymunedau’.
PC Andy Price 679
Ymunodd PC Andy Price â’r Heddlu yn 2001 a bu’n gweithio yn y Trallwng drwy gydol ei yrfa fel heddwas. Mae’n heddwas profiadol sydd wedi treulio cyfnod yn yr Uned Trin Carcharorion yn y Drenewydd. Fe’i magwyd ar fferm ac ymunodd â’r fyddin ar ôl gadael yr ysgol ym 1979; ers gadael y fyddin bu’n brif gowmon ar fferm brysur ger Ellesmere, ac yn rheolwr mewn ffatri fwyd cyn ymuno â’r heddlu. Mae Andy wedi pasio’n beilot ac mae’n hoff iawn o dreulio’i amser sbâr yn yr awyr - pan fydd y tywydd yn caniatáu.
PCSO Tom Milne 8087
Ymunodd PCSO Tom Milne â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Mawrth 2010. Cafodd ei leoli yn Nhref Caerfyrddin a threuliodd 18 mis yno fel PCSO cyn trosglwyddo i Dîm Plismona Bro’r Trallwng ym mis Rhagfyr 2011.
Cafodd ei fagu yn ardal y Trallwng, a bu’n ddisgybl yn Ysgol Gynradd Llanfechain ac Ysgol Uwchradd Llanfyllin.
Mae ganddo wybodaeth leol dda ac yn hoff o ymgysylltu â phob aelod o’r gymuned. Mae’n mwynhau mynd i’r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol, ymgysylltu â phobl ifainc a chasglu cudd-wybodaeth. Bydd hefyd yn gweithio fel swyddog cydlynu’r cynllun Bihafio neu Cewch Eich Banio ar gyfer Tref y Trallwng, gan helpu i leihau achosion o drosedd ac anrhefn sy’n gysylltiedig ag alcohol.
PCSO Sarah Bebb 8055
Rhif Coler: 8055
Fel rhan o’i rôl fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO), mae Sarah Bebb hefyd yn gyfrifol am sefydlu cysylltiadau ag ysgolion yn y gymuned. Gan dynnu ar ei phrofiad blaenorol fel Cwnstabl Gwirfoddol yn yr ardal hon, mae hi’n awyddus i helpu’r gymuned ehangach.
SC Tim Westlake 7015
SC Giles George
SC Norman Williams
SC Richard Waldron 7075
Ymunodd y Cwnstabl Gwirfoddol Richard Waldron â Thîm Rheoli Bro’r Trallwng ym mis Gorffennaf 2007. Mae Richard yn gyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng ac mae newydd ennill gradd BSc mewn Gwyddor Plismona ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae Richard yn byw yn lleol ac yn mwynhau gweithio yn y gymuned lle y magwyd ef.
SC Paul Rutter
Cyfarfodydd Bro
-
Neuadd Bentref Llanymynech
Cymorthfeydd
-
Gorsaf Heddlu Symudol, CegidfaDydd Iau 7 Mehefin, 10:00am - 11:00am
-
Gorsaf Heddlu Symudol, LlanymynechDydd Mercher 6 Mehefin, 11:30am - 12:30pm
-
Gorsaf Heddlu Symudol, LlandrinioDydd Mercher 6 Mehefin, 10:00am - 11:00am
-
Gwen 11 Mai 2012darllen mwy >>
Mae'r heddlu yn chwilio am fyrgleriaid 'ffiaidd' a wnaeth wrthdynnu sylw dynes fregus a dwyn £...
-
Iau 26 Ebr 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion heddlu sy’n ymchwilio i fyrgleriaeth yn ardal Moelygarth, y Trallwng, wedi...
-
Maw 24 Ebr 2012darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n ymchwilio i fyrgleriaeth a ddigwyddodd yn ystod mis Ionawr/Chwefror 2012 mewn...
-
Maw 17 Ebr 2012darllen mwy >>
Mae swyddogion heddlu yn y Trallwng yn apelio am dystion mewn perthynas â digwyddiad a...
-
Iau 12 Ebr 2012darllen mwy >>
Yn dilyn ymchwiliad hir gan yr heddlu yn y Trallwng, mae chwech o bobl wedi’u cyhuddo o...


