Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref y Trallwng

Ymddygiad Gwrthgymdeithasol

  • Dydd Mercher, Gorffennaf 13, 2011
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

    17/01/2012

    • Mae’r Cyngor Tref wedi cael gwared â meinciau ar gais yr Heddlu.
    • Cynhaliwyd patrolau amlwg.

    11/10/11 - Ymddygiad gwrthgymdeithasol, ardal Puzzle Square.

Cyffuriau

  • Dydd Mawrth, Ionawr 17, 2012
    Llun 23 Ion 2012
    Amh.

Blaenoriaethau Blaenorol

Mer, Mehefin 15, 2011

  • Cynhaliwyd Dawns Rali Ffermwyr ifanc ym Meifod, ac roedd tua 1,200 yn bresennol.  Aeth Tîm Rheoli Bro’r Trallwng a Chwnstabliaid Gwirfoddol i’r ddawns gan gynorthwyo staff drws yr SIA i fonitro’r rhai oedd yn mynychu’r digwyddiad ac unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed dan oed.  Diolch i waith partneriaeth da ar y cyd â’r trefnwyr a staff yr SIA, cafwyd noson hwylus a didrafferth gan bawb.

Sarjant Darren Brown 144

  • Darren Brown

    Ymunodd Sarjant Darren Brown â Heddlu Dyfed/Powys ym 1990.  Treuliodd ei yrfa hyd yn hyn yn Sir Drefaldwyn a bu’n gweithio fel swyddog ymateb, Sarjant y Ddalfa ac mewn rôl oruchwyliol.  Symudodd Darren o’r Drenewydd i’r Trallwng fel Goruchwylydd y Tîm Rheoli Bro ym mis Medi 2010.  

    ‘Rwyf yn oruchwylydd dros Dîm Rheoli Bro’r Trallwng sy’n cwmpasu ardaloedd Y Trallwng, Llanfyllin a Llanfair Caereinion.  Nod ein tîm yw gwella ein dulliau ymgysylltu a rhoi mwy o gefnogaeth i’n cymunedau a’r asiantaethau partner er mwyn darparu presenoldeb amlwg a datrys y materion sy’n cael effaith ar fywyd beunyddiol ein cymunedau’.

PC Jim Baines 777

  • Jim Baines

    Ymunodd PC Jim Baines â’r heddlu ym mis Medi 2004. Cyn hynny treuliodd wyth mlynedd yn gwneud gwaith gwirfoddol gydag ieuenctid y dref, ac yna pedair blynedd mewn cartref preswyl yn gweithio gyda phobl ifanc oedd wedi datblygu problemau ymddygiad oherwydd eu cefndir a’u profiadau. Cafodd ei eni a’i fagu yn y Trallwng felly mae’n gyfarwydd iawn â’r dref ac mae ei wybodaeth leol a’i brofiad o weithio gyda phobl ifanc yn help iddo yn ei rôl fel Swyddog Plismona Bro.

PC Lindsay Sweetman 129

  • Lindsay Sweetman

    Ymunodd PC Lindsay Sweetman â Heddlu Dyfed-Powys yn 2001. Mae’n dod yn wreiddiol o Sir Benfro ond symudodd i’r Trallwng ym 1985 pan ymunodd ei thad â Heddlu Dyfed-Powys. Cafodd ei haddysg yn lleol yn ysgol Gynradd Maesydre ac Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion. Mae wedi gweithio yn y Trallwng trwy gydol ei gyrfa gyda’r heddlu, ond treuliodd gyfnod gydag Uned Diogelu’r Cyhoedd yn y Drenewydd lle cafodd hyfforddiant arbennig yn ymwneud â Throseddau Rhyw a Diogelu Plant. Ymunodd â Thîm Plismona Bro'r Trallwng ym mis Ionawr 2008. Mae’n swyddog sy’n gallu gweithio ar ei liwt ei hun ac mae’n hoffi mynd ati’n uniongyrchol i ddelio â heriau newydd.

PCSO Sarah Bebb 8055

  • Sarah Bebb

    Rhif Coler: 8055

    Fel rhan o’i rôl fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSO), mae Sarah Bebb hefyd yn gyfrifol am sefydlu cysylltiadau ag ysgolion yn y gymuned. Gan dynnu ar ei phrofiad blaenorol fel Cwnstabl Gwirfoddol yn yr ardal hon, mae hi’n awyddus i helpu’r gymuned ehangach.

     

SC Tim Westlake 7015

SC Giles George

SC Norman Williams

SC Richard Waldron 7075

  • SC Richard Waldron

    Ymunodd y Cwnstabl Gwirfoddol Richard Waldron â Thîm Rheoli Bro’r Trallwng ym mis Gorffennaf 2007.  Mae Richard yn gyn ddisgybl o Ysgol Uwchradd y Trallwng ac mae newydd ennill gradd BSc mewn Gwyddor Plismona ym Mhrifysgol Morgannwg.  Mae Richard yn byw yn lleol ac yn mwynhau gweithio yn y gymuned lle y magwyd ef.

SC Paul Rutter

Cyfarfodydd Bro

  • Corn Exchange, Neuadd y Dref, Y Trallwng

Cymorthfeydd

  • Pob prynhawn dydd Mercher

    Paned gyda’ch plismon - Y caffi yn archfarchnad Morrisons
    Dydd Mercher 15 Chwefror, 2:30pm - 3:30pm