Sefydlwyd ymgyrch ad hoc yn dilyn nifer o ladradau o gerbydau heb ofalydd yn ardal Ystradfellte. O ganlyniad i hyn, arestiwyd dau ddyn o ardal Merthyr Tudful. Hefyd, adferwyd eiddo a ddygwyd wrth deulu o dwristiaid o’r Almaen. Er waethaf (neu o bosibl oherwydd) eu profiad, maent wedi mynegi eu hawydd i ddychwelyd i Gymru yn y dyfodol.
Ystradgynlais Wledig
Speed - Ynyswen/Penycae
-
Dydd Iau, Hydref 13, 2011Mer 18 Ion 2012Amh.
15/01/2012 - Er mwyn mynd i’r afael â materion goryrru yn ardal Ystradgynlais, mae Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru yn parhau i gynnal patrolau rheolaidd yn yr ardal, gyda meysydd o bryder penodol yn cael eu cynnwys fel rhan o Gynllun Strategol eu patrôl.
20/12/2011 - Mae’r Tîm Plismona Bro dal yn aros am ddata mewn perthynas â chyflymder cerbydau ar hyd heol yr A4067 Ynyswen / Penycae. Ar ôl derbyn adroddiad a dadansoddiad o’r data hwn, ystyrir lleoli Dyfais Dangos Cyflymder cludadwy. Yn y cyfamser, bydd y Tîm Plismona Bro a’r Uned Plismona’r Ffyrdd yn parhau i fonitro/gorfodi yn yr ardal.
13/11/2011 - Bu’r Tîm Plismona Bro yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys ac wedi gwneud cais am stribedi monitro cyflymder ar gyfer yr A4067 ardal Ynyswen / Penycae. Bydd swyddogion hefyd yn gweithio’n agos gydag Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru dros yr wythnosau nesaf, yn monitro ac yn gorfodi cyflymder gyda’r bwriad o sefydlu’r angen am osod Dyfais Dangos Cyflymder yn dilyn cwynion parhaus am gyflymder cerbydau sy’n defnyddio’r rhan hon o’r heol.
Ymddygiad gwrthgymdeithasol
-
Ynyswen y CoelbrenDydd Mawrth, Mai 24, 2011Mer 18 Ion 2012
Mae’r Tîm Rheoli Bro yn parhau i weithio’n agos â’r Gwasanaethau
Ieuenctid mewn ymgais i ymgysylltu â phobl ifanc ar Ystâd Ynyswen. Rhan
o’r broblem o ran pobl ifanc yn creu niwsans yw’r diffyg cyfleusterau
a’r pellter wrth gyfleusterau lleol eraill h.y. cyfleusterau clwb
ieuenctid yn Ystradgynlais.15/01/2012
- Cynyddwyd patrolau gan y Tîm Plismona Bro yn ystod mis Rhagfyr er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd yn nifer y lladradau olew o anheddau preswyl ac adeiladau cymunedol megis cwb sgowtiaid Caehopkin.
- Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau amlwg a rhoi tawelwch meddwl drwy ymgysylltu ag aelodau’r gymuned er mwyn adnabod a mynd i’r afael â materion o bryder. Bu cynghorwyr lleol ynghlwm â thaith gerdded ar y cyd o gwmpas yr ystadau, sy’n effeithiol iawn o ran adnabod a datrys problemau gyda’n gilydd. Bydd hyn yn parhau dros y misoedd sydd i ddod.
20/12/2011 - Ni fu galwadau mewn perthynas â phobl ifainc yn creu niwsans yn Ynyswen yn ystod mis Tachwedd, ac mae’r adborth a gafwyd o’r cyfarfod PACT diwethaf, a gynhaliwyd ar 6 Rhagfyr 2011 yn Ysgol Gynradd Penycae, yn dangos bod cynnydd yn nifer y patrolau gweladwy ac ymgysylltu â phobl ifainc yr ardal wedi cael effaith gadarnhaol ar y materion yn yr ardal a riportiwyd yn flaenorol.
13/11/2011 - Yn dilyn cwynion diweddar am fân ymddygiad gwrthgymdeithasol ar ystâd Ynyswen gan bobl ifanc sy’n byw yno, bydd y Tîm Plismona Bro yn ymgysylltu’n rhagweithiol â’r bobl ifanc a’u teuluoedd a’u haddysgu am ymddygiad priodol.
Mer, Gorffennaf 20, 2011
Arolygydd Helen Hill 2059
Mae’r Arolygydd Helen Hill wedi bod yn swyddog heddlu ers 20 mlynedd. Yn wreiddiol, ymunodd â Heddlu Llundain. Am y 14 blynedd diwethaf, mae wedi gweithio i Heddlu Dyfed-Powys.
Cychwynnodd ei gyrfa yn gwasanaethu fel Cwnstabl a Sarjant yn Sir Gaerfyrddin, fodd bynnag, am y 5 mlynedd diwethaf, mae wedi gweithio o fewn Powys. Mae’n byw yn Llanelli gyda’i gŵr a dau o blant bach.
Sarjant Adele Pitt 960
Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.
Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.
A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt. Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.
Sarjant Rod Bowen 481
Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.
Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.
A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt. Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.
PC Mike Hapgood 118
Ymunodd PC Mike Hapgood â gwasanaeth yr heddlu yn ôl ym 1991. Ers
hynny, mae wedi gweithio mewn nifer o orsafoedd gan gynnwys
Aberystwyth, Llanelli ac Aberhonddu. Ymunodd â Thîm Ystradgynlais
Wledig yn 2007, gan gymryd cyfrifoldeb am ardal Cwm Tawe Uchaf. Mae
Mike yn chwaraewr ac yn gefnogwr rygbi brwd.
Cyfarfodydd Bro
-
Ysgol PenycaeDydd Mercher 28 Mawrth, 7:30pm
-
Neuadd Les CoelbrenDydd Mawrth 15 Mai, 7:30pm
-
Iau 01 Rhag 2011darllen mwy >>
Mae tîm plismona bro Ystradgynlais a masnachwyr lleol wedi dod at ei gilydd er mwyn sefydlu...
-
Llun 15 Awst 2011darllen mwy >>
Mae’r heddlu’n apelio am dystion i ddamwain traffig y ffyrdd a arweiniodd at farwolaeth un o’r...
-
Gwen 25 Maw 2011darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymroddiad i’r bobl y mae’n gwasanaethu, mae Heddlu
Dyfed-Powys yn sicrhau fod... -
Iau 24 Maw 2011darllen mwy >>
Bu plant Ysgol Gynradd Penrhos, Ystradgynlais, yn cymryd rhan mewn
menter lleihau... -
Maw 02 Tach 2010darllen mwy >>
Fel rhan o’i ymroddiad i ddiogelu’r cymunedau a wasanaethir ganddo, ail-agorodd Heddlu Dyfed-...


