Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Tref Ystradgynlais

Parhau i fonitro ymddygiad gwrthgymdeithasol cyffredinol gan bobl ifanc yn y dref a’r ardaloedd cyfagos

  • Dydd Llun, Ionawr 2, 2012
    Gwen 18 Mai 2012

    Mae swyddogion y Tîmrheoli Bro yn parhau i gynnal parolau gweladwy er mwyn atal a mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdiethasol a phobl ifanc yn yfed.

    17/05/2012 - Er mwyn mynd i'r afael â phroblemau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol mae'r Tîm Plismona Bro yn parhau i ddarparu patrolau Gwelededd Uchel rheolaidd mewn lleoliadau problemus. Roedd difrod wedi'i achosi'n ddiweddar i loches Bws y Gurnos sydd bellach wedi'i drwsio gyda gwydr Perspex. Mae patrolau rheolaidd bellach yn cael eu cynnal yn yr ardal i atal unrhyw ddifrod pellach.

    Mae Tîm Plismona Bro Ystradgynlais yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda nifer o asiantaethau i fynd i'r afael â phroblemau sydd wedi codi yn Ysgol Gyfun Maesydderwen a'r ardal gyfagos. Mae swyddogion hefyd yn ymgynghori gyda'r Pennaeth gyda golwg ar gynnal cymorthfeydd yr heddlu yn yr adeilad newydd o fis Medi ymlaen.

    Mae Tîm Plismona Bro tref Ystradgynlais yn y broses o weithio mewn partneriaeth gyda'r Frigâd Dân leol i drefnu cyflwyniadau ymwybyddiaeth gydag ysgolion a grwpiau ieuenctid lleol ar ôl cyfres o dannau gwair a gafodd eu cynnau yn yr ardal yn ddiweddar.

    08/05/2012 - Mae'r Tîm Plismona Bro wedi cynnal patrolau targedig ar amserau perthnasol, yn bennaf gyda'r nos ar ddyddiau Iau, Gwener, Sadwrn a Sul. Mae hyn wedi golygu siarad ag ieuenctid yn yr ardal, gofyn iddynt symud ymlaen ar ôl rhoi cyngor addas iddynt ac atafaelu unrhyw alcohol a ganfuwyd gyda'r rhai dan oed. Mae atgyfeiriadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol hefyd wedi'u cyflwyno lle fo'n berthnasol. Mewn ymateb i gwynion parhaus gan siop newydd Tesco mewn perthynas ag ieuenctid yn ymgasglu yn y maes parcio ac yn achosi Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn y maes parcio a hefyd yn yr ardaloedd cyfagos o amgylch y maes parcio, mae proffil problem wedi'i lunio sy'n cynnwys patrolau rheolaidd a chyswllt â staff Tesco ac ieuenctid yn yr ardal. Mae'r Tîm Plismona Bro hefyd yn gweithio mewn partneriaeth gyda Chynghorwyr Lleol a Tecso i adnabod problemau y gall y siop fynd i'r afael â hwy a fydd yn cynorthwyo wrth liniaru ar y problemau. 

    03/04/2012 - Mae swyddogion o’r Tîm Plismona Bro yn parhau i gynnal patrolau amlwg er mwyn mynd i’r afael â materion ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae patrolau rheolaidd ar droed yn galluogi swyddogion i ymgysylltu gydag aelodau o’r gymuned a phreswylwyr. Mae swyddogion hefyd yn cynnal patrolau ar faes yr ysgol a’r cyffiniau gan ymgysylltu â phlant a welir o gwmpas yr ardal.

Materion goryrru - Heol Aberhonddu

  • Dydd Iau, Mawrth 1, 2012
    Gwen 18 Mai 2012

    Mae’r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio mewn partneriaeth gyda Chyngor Sir Powys a Thîm Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru er mwyn mynd i’r afael â materion goryrru.

    17/05/2012 - Mae Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru yn parhau i ymroi i batrolio'r ardal.

    08/05/2012 - Mae'r Tîm Plismona Bro yn parhau i weithio'n agos gydag Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru sy'n ymroi i batrolio yn yr ardal. Mae nifer o droseddau yn cael eu targedu gan gynnwys gyrwyr sy'n yfed, troseddau adeiladu a defnyddio, gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd/problemau Diogelwch ar y Ffyrdd a phob trosedd arall yn ogystal â goryrru.

    03/04/2012 - Er mwyn mynd i’r afael â materion goryrru yn ardal Ystradgynlais, mae Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru’n parhau i gynnal patrolau rheolaidd drwy’r ardal, gyda meysydd o bryder penodol yn cael eu cynnwys fel rhan o Gynllun Strategol eu patrôl. Rhoddwyd cyfanswm o 6 Hysbysiad Cosb Benodedig ym mis Chwefror am oryrru yn yr ardal.

Blaenoriaethau Blaenorol

Maw, Ebrill 03, 2012

  • Mae cyfres newydd o Gymorthfeydd Plismona Bro wedi’u sefydlu yn ardal Ystradgynlais. Bydd aelod o Dîm Plismona Bro Tref Ystradgynlais yn Neuadd Les Coelbren am 10.30 o’r gloch bob dydd Mercher, ac am 11 o’r gloch bob dydd Iau yn Neuadd Les Abercraf.

Arolygydd Andy Reed 2123

  • Inspector Andy Reed

    Ymunodd yr Arolygydd Reed â Heddlu Dyfed-Powys yn 1992. Mae ef wedi ymrwymo tuag at weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog.

Sarjant Adele Pitt 960

  • Adele Pitt

    Ymunais â Heddlu Dyfed Powys ym mis Ebrill 1985 ac rwyf wedi gwasanaethu ym Mhowys yng Ngorsafoedd Aberhonddu, Y Drenewydd ac Ystradgynlais. Rwyf wedi gweithio yn Adran Traffig y Ffyrdd, fel Sarjant y Ddalfa ac fel Sarjant Ymateb.

    Yr wyf yn awr wedi ymgymryd â rôl Sarjant Rheoli Bro dros Sir Frycheiniog lle byddaf yn cydweithio gyda’r Sarjant Adele Pitt. Mae hon yn rôl newydd, fydd yn cefnogi’r Tîm Rheoli Bro yn Sir Frycheiniog.

    A minnau yn berson lleol a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu, rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog gan ddarparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sy’n peri pryder iddynt.  Gwneir hyn gyda chefnogaeth partneriaid yr ydym eisoes wedi datblygu perthynas waith ardderchog â hwy.

Sarjant Mal James 206

  • PS 206 Mal James

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys yn 1986 a chefais fy lleoli yn Llanelli. Rwyf wedi gweithio mewn gorsafoedd heddlu eraill dros y blynyddoedd gan gynnwys Porth Tywyn, Dinbych-y-pysgod, Llandrindod a’r Gelli Gandryll. Des i i Aberhonddu ym 1991 a chefais fy nyrchafu i reng Rhingyll yn 2007. Rwyf nawr wedi ymgymryd â rôl Rhingyll Rheoli Bro Strategol ar gyfer Sir Frycheiniog a byddaf yn gweithio ochr yn ochr â’m cydweithwraig y Rhingyll Adele Pitt. Dyma rôl newydd a fydd yn rhoi cymorth i’r Timoedd Rheoli Bro sydd eisoes yn bodoli o fewn Sir Frycheiniog. Rwyf o’r ardal a chefais fy addysg yn Ysgol Uwchradd Aberhonddu a Phrifysgol Abertawe. Rwy’n awyddus i weithio gyda chymunedau Sir Frycheiniog a darparu gwasanaeth sy’n mynd i’r afael â’r materion sydd o bryder i bob cymuned. Cyflawnir hyn gyda chymorth ein partneriaid. Eisoes, rydym wedi adeiladu perthynas waith ardderchog gyda nhw.

PC Owen Griffiths 233

  • Mae PC Owen Griffiths wedi bod yn y gwasanaeth heddlu ers 2002. Bu’n gysylltiedig â’r Tîm Plismona Bro ers ei sefydlu, gan weithio yn Aberhonddu ac Ystradgynlais cyn cael ei benodi’n Rheolwr Bît Lleol yn 2006. Mae Owen yn actor brwd ac mae wedi ymddangos mewn rhaglenni teledu megis Pobl y Cwm a Doctor Who, yn ogystal â pherfformio ei sioe ei hunan yng Ngŵyl Ymylol Caeredin.

PCSO Dan Garnell 8031

  • Mae’r PCSO Dan Garnell wedi bod yn ei swydd gyfredol fel PCSO yn nhref Rhydaman a Betws ers mis Mai 2006. Cyn hynny, bu’n gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol ac yn gweithio fel Swyddog y Ddalfa gyda Heddlu Afon a Gwlad yr Haf.

PCSO Adam Jones 8032

  • PCSO 8032 Adam Jones

    Ymunais â Heddlu Dyfed-Powys ym mis Tachwedd 2011 ac rwyf wedi bod yn gweithio fel Swyddog Cefnogi Cymunedol yr Heddlu ers mis Ionawr 2012.  Ar ôl gorffen ysgol, es ymlaen i astudio ar gyfer gradd mewn Gwyddorau Heddlu ym Mhrifysgol Morgannwg. Gadewais ar ôl blwyddyn yn dilyn fy nghais llwyddiannus i ymuno â Heddlu Dyfed-Powys. Yn fy amser hamdden, rwy’n mwynhau gwrando ar gerddoriaeth yn ogystal â chwarae’r gitâr, bâs a phiano.  Cefais fy ngeni a’m magu ym Mhen0y-bont ar Ogwr ac rwy’n mwynhau dod i adnabod ardal Ystradgynlais a’r cyffiniau yn ogystal â’r preswylwyr yn fawr iawn.

Cyfarfodydd Bro

  • Clwb Cyfansoddiadol Gough

Cymorthfeydd

  • Neuadd Les Coelbren
    Dydd Mercher 23 Mai, 10:30am
  • Neuadd Les Abercraf
    Dydd Iau 24 Mai, 11:00am