Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Goryrru – Hen Heol

Dyddiad y Cytunwyd: 
04/03/2011
Diweddariadau: 

12/05/11 - Nid oedd modd i swyddogion
monitro’r lleoliad gan nad oedd yr offer ar gael. Fodd bynnag, cynhaliwyd
patrolau cyson er mwyn atal gyrwyr rhag goryrru.

04/07/11 - Cynhaliwyd patrolau amlwg yn
rheolaidd yn y lleoliad er mwyn ceisio atal gyrwyr rhag goryrru. Mae’r Tîm
Plismona Bro yn dal i ddisgwyl am ddiweddariad gan John
McEvoy mewn perthynas â sut allith e fod o gymorth wrth geisio datrys y mater.

03/08/11 - Cynhaliwyd presenoldeb amlwg yn yr
ardal, a does neb wedi riportio cynnydd mewn problemau. Mae Cynghorydd lleol
hefyd wedi dweud wrth y Tîm Plismona Bro bod gwaith ar fin cychwyn ar cynllun
ffordd  newydd ar hyd Hen Heol a
Heol Goring.

02/09/11 - Bu swyddogion yn cynorthwyo’r Tîm Plismona Bro wrth iddynt gynnal gwiriadau cyflymder ac ymdrin ag amryw o droseddau yn y lleoliad. Siaradwyd â nifer o bobl a rhoddwyd cyngor priodol.

05/10/11 - Cynhaliodd y Tîm Plismona Bro, ynghyd â swyddogion ymateb tref Llanelli, wiriadau cyflymder yn y lleoliad dros gyfnod byr. Ymddengys bod canlyniadau’r gwiriadau cyflymder yn iawn, ac ni welwyd unrhyw droseddwyr hyd yn hyn.

04/11/2011 - Mae’r Tîm Plismona Bro, ynghyd â swyddogion Uned Plismona’r Ffyrdd, wedi bod yn bresennol yn y lleoliadau gan gynnal gwiriadau cyflymder. Adnabuwyd troseddwyr a rhoddwyd hysbysiadau cosb benodedig iddynt.