Ardaloedd Parcio i Breswylwyr Yn Unig
08/12/2011 - Codwyd y mater hwn gan rai trigolion oedd yn pryderu nad oeddent yn gallu parcio y tu allan i'w cartrefi, nac yn agos atynt, ar y penwythnos oherwydd gemau pêl-droed a rygbi. Mae SCCH Payne wedi cydlynu â John McEvoy, o Gyngor Sir Caerfyrddin. Ymwelwyd â'r safle yn Ynyswen. Esboniodd Mr McEvoy fod hyn yn gynllun i ganol trefi yn unig. Fe'i cynlluniwyd i leddfu'r pwysau ar breswylwyr ger y ganolfan siopa yng nghanol y dref oedd yn dioddef oherwydd bod siopwyr yn osgoi defnyddio meysydd parcio yng nghanol y dref. Felly, nid oedd modd gweithredu'r cynllun yn fan hyn. Petasai wedi bod yn ateb derbyniol, byddai wedi golygu'r pwyntiau canlynol. Byddai'n costio £30 y flwyddyn am bob cerbyd, ac unwaith bod y cynllun wedi'i weithredu, nid oedd modd ei ddiddymu. Byddai'r cyfnod ymgynghori'n cynnwys 5 elfen wahanol o ymgynghori, fyddai'n cymryd 4 blynedd. Y cyngor fyddai'n gyfrifol am "blismona" y cynllun, ond nid ydynt yn cyflogi warden traffig ar gyfer ardaloedd gwledig ar y penwythnos, felly ni fyddai'r cynllun yn cael ei blismona o gwbl.


