Page Content Starts Here
Ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Ward Glan-y-môr – Ymgyrch BANG
Dyddiad y Cytunwyd:
04/11/2011 Diweddariadau:
04/12/2011 - Cafwyd 12 o alwadau Ymddygiad Gwrthgymdeithasol o Ward Glanymor yn ystod mis Tachwedd, 3 ohonynt yn ymwneud ag Ymgyrch BANG. Roedd yn gyfnod tawel iawn i'r tîm o gymharu â'r llynedd, pan gafwyd 78 o alwadau. Ymwelwyd ag ysgolion, a rhoddwyd cyngor iddynt ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol a diogelwch tân yn ystod cyfnod Calan Gaeaf a'r Noson Tân Gwyllt. Hefyd, ymwelwyd â siopau lleol, a rhoddwyd cyngor iddynt o ran gwerthu blawd ac wyau. Gofynnwyd iddynt ddangos posteri yn eu ffenestri, yn hysbysebu'r cyfyngiad ar werthu blawd ac wyau. Nid yw'r un o'r galwadau a dderbyniwyd yn peri unrhyw bryder i'r tîm. Cyhoeddwyd 5 llythyr rhybudd gan y tîm ynghylch Ymddygiad Gwrthgymdeithasol y mis hwn.


