Patrolau amlwg yng nghanol y dref ac yn yr ardaloedd preswyl
Cymryd camau gweithredu cadarnhaol mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, a phlismona amlwg yn ystod amserau allweddol. Bydd y rhain mewn lle tan 31/08/2011.
20/04/11 - Arestiwyd dyn o ardal Llanfair Caereinion am yrru ag yntau wedi ei wahardd, a heb yswiriant. Fe’i orchmynwyd i ymddangos gerbron llys.
30/08/11 - Mewn Partneriaeth â Thai Cyngor Sir Powys, mae Tîm Plismona Bro’r Trallwng wedi cynnal, ac yn dal i gynnal teithiau cerdded o gwmpas ystadau yn Llanfair Caereinion. Pwrpas hyn yw adnabod unrhyw faterion a ellir eu datrys drwy ymagwedd amlasiantaethol.
Mae heddlu lleol wedi dod o hyd i eiddo lleol lle y bu pobl ifanc yn yfed alcohol dan oed. Siaradwyd â’r deilydd, a gwnaed arést am feddiant canabis. Derbyniwyd dirwy o £200 yn y llys.


