Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Patrolau amlwg yn ardal Llanfyllin yn gyffredinol.

Dyddiad y Cytunwyd: 
06/02/2011
Diweddariadau: 

06/02/11 - Cynhaliwyd patrolau amlwg yn ystod y dydd a gyda’r nos yn Llanfyllin a’r pentrefi cyfagos.

20/04/11 - Arestiwyd pedwar bachgen ifanc ar amheuaeth o affräe ar ddydd Llun y 13eg o Fawrth, yn dilyn anhrefn yn Llanrhaeadr-ym-mochnant. Derbyniwyd gwybodaeth gan aelodau’r cyhoedd wrth iddo ddigwydd, ac oherwydd hynny, setlwyd y mater yn sydyn. Mae’r ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Gweithredodd Tîm Plismona Bro warant dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau yn ardal Llanfyllin ym mis Rhagfyr 2010. Yn dilyn ymchwiliad, cyhuddwyd dyn am fwriadu gwerthu cyffuriau, ac fe fydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron. Dyma’r cyflenwad mwyaf o heroin rydym wedi dod o hyd iddo ym Mhowys o fewn y chwe mis diwethaf.

Cynhaliwyd ymweliad i Lanrhaeadr-ym-mochnant ar y cyd gan yr Heddlu ac Adran Dai ac Adran Cynnal a Chadw Cyngor Sir Powys er mwyn mynd i’r afael ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cynhaliwyd patrolau a dosbarthwyd taflenni i rieni ysgol Llansilin mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.