Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Patrolau amlwg a stopio a gwirio mewn perthynas â throseddau yng nghefn gwlad

Dyddiad y Cytunwyd: 
13/05/2011
Diweddariadau: 

15/06/11 - Yn sgil ein blaenoriaeth i gynnal patrolau gweladwy a stopio a gwirio unigolion, arestiwyd dyn o Groesoswallt mewn cysylltiad ag achosion o ddwyn metel yn ardal Llanfyllin. Roedd yr eitemau a ddygwyd yn cynnwys cloriau tyllau archwilio. Cafodd yr eitemau eu hadfer ac mae’r dyn wedi ei gyhuddo a bydd yn ymddangos gerbron llys maes o law.

16/02/2012

  • Gweithredwyd gwarant cyffuriau positif yn ardal Dolanog. Amcangyfrifir bod gwerth stryd y cyffur Dosbarth B dros £100,000 a bod y gweithrediad yn unig eisoes wedi costio £20,000. Arestiwyd un unigolyn sydd ar fechnïaeth ar hyn o bryd.
  • Mae ein tîm targedu wedi bod yn patrolio’r lleoliadau gwledig – mae 2 unigolyn wedi derbyn rhybuddion canabis, cyhuddwyd 1, a derbyniodd 1 hysbysiad cosb am anhrefn.
  • Bu 3 galwad mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans) yn ardal Llanfyllin.

12/03/2012 - Yn dilyn gweithredu gwarant bositif ym mis Rhagfyr 2010, mae dyn o ardal Llanfyllin wedi’i ddedfrydu i 21 mis o garchar a gorchymyn atafaelu o £1425.00 mewn arian am fod â heroin yn ei feddiant gyda’r bwriad o’i werthu.
 
Cynhaliwyd patrolau mewn mannau problemus er mwyn atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol.
 
Dim ond tair galwad yr ydym wedi derbyn mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans) yn y mis diwethaf.