Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Cerbydau’n goryrru ar y ffyrdd sy’n arwain i mewn i’r dref o gyfeiriad y Dwyrain a’r Gorllewin

Dyddiad y Cytunwyd: 
14/02/2011
Camau Gweithredu: 

Mae Swyddogion Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru yn mesur cyflymdra cerbydau yn yr ardal hon yn rheolaidd. Bydd yr ystadegau ynghylch unrhyw droseddau a ddarganfuwyd yn cael eu postio yn y dyfodol agos.

Diweddariadau: 

14/03/11 - Mae Swyddogion Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru yn cynnal gwiriadau cyflymder rheolaidd yn yr ardal.  Darperir ystadegau ar gyfer y troseddau y deliwyd â hwy cyn gynted ag y ceir adroddiad gan adran blismona’r ffyrdd.   Rydym yn parhau i gydweithio gyda phartneriaid eraill mewn perthynas â’r mater hwn sydd wedi bod yn destun pryder i drigolion ers cryn amser.

Fel yn yr uchod, mae offer mesur cyflymder yn dal i weithredu yn y lleoliad.  Byddant yn cael eu casglu a’r data’n cael ei goladu’r mis hwn er mwyn canfod yr 85fed canradd cyflymder ar y ddwy ffordd i mewn i’r pentref.  Siwrnai y bydd y wybodaeth hon wedi ei chasglu, gobeithiaf gyflwyno adroddiad i’r cyfarfod PACT nesaf ar y 28/4/11.