Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Ymddygiad gwrthgymdeithasol / yfed dan oed

Ardal Leol: 
Yn ardaloedd Aberdaugleddau, Hakin a Hubberston gyda’r nos ac ar y penwythnosau
Dyddiad y Cytunwyd: 
15/07/2010
Diweddariadau: 

15/07/2010 - Patroliwyd yr ardaloedd canlynol mewn perthynas â phobl ifanc a’r
camddefnydd o alcohol: Y Rath, y Gerddi Dŵr, maes chwarae Pill, Eglwys
Dewi Sant, Priordy Isaf, Maes Meads, Slip Hill, Traeth Aberdaugleddau,
Traeth Conduit, Gelliswick, Ffordd Marble Hall a’r llwybr arfordirol
ger South Hook. Mae’n ymddangos bod yna ostyngiad yn y nifer o achosion
o gamddefnyddio alcohol yn yr ardaloedd hyn gan na dddarganfuwyd unrhyw
ganiau, poteli neu unrhyw gynhwysydd arall yn gysylltiedig ag alcohol
yno. Dwy flynedd yn ôl, roedd y tîm yn atafaelu alcohol bron bob dydd.
Ar hyn o bryd, ychydig iawn o alcohol sydd yn cael ei atafaelu. Mae
patrolau’n parhau i rwystro pobl ifanc rhag yfed alcohol mewn mannau
cyhoeddus. Mae’r diwrnodau Gweithgareddau Am Ddim yn parhau, gyda’r un
nesaf yn cael ei gynnal ar yr 28ain o Orffennaf yng Nghlwb Hwylio
Gelliswick i blant dros 14 oed. Cynhelir chwaraeon yng Nghanolfan
Chwaraeon Meads ar y 30ain o Orffennaf, a physgota ar y 13eg o Awst.

13/03/2012 - Atafaelwyd a gwaredwyd ar alcohol wrth grŵp o bobl ifainc dan oed yn ardal Heol Steynton.