Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Plismona Bro

Beth yw Plismona Bro?

Nod plismona bro yw sicrhau bröydd diogel trwy ddarparu gwasanaeth sydd wedi cael ei deilwra i ddiwallu anghenion lleol ac sy'n weladwy ac yn hygyrch i bawb. Mae hefyd yn rhoi cyfle i bobl ddylanwadu ar y blaenoriaethau diogelwch cymunedol lleol, yn hyrwyddo gwaith partneriaeth gyda sefydliadau lleol eraill, yn datrys problemau ac yn mynd i'r afael â phryderon lleol.

Sut Aethom ati i Ddiffio Bro

O ganlyniad i arolygon barn ac ymarferion ymgynghori, gwelwyd bod y rhan fwyaf o drigolion ardal Dyfed Powys yn ystyried eu bro fel y strydoedd neu’r ystadau tai cyfagos, neu'r dref, neu'r pentref neu'r ardal lle maent yn byw.

Yn sgil gwaith ymchwil a wnaed, pennwyd y wardiau etholiadol cyfredol fel y man cychwyn mwyaf addas ar gyfer diffinio ffiniau'r bröydd.

Mae pob Tîm Plismona Bro yn cwmpasu ardal ddaearyddol a gytunwyd arni yn lleol, sy'n medru cynnwys un neu fwy o wardiau, gan adlewyrchu maint a natur wledig ardal Dyfed-Powys.

Ynglŷn â'r Timau Bro

Mae'r Timau Bro yn gallu cynnwys staff yr heddlu a staff ein partner asiantaethau, gan ddibynnu ar anghenion y gymuned leol.

Gall tîm nodweddiadol gynnwys Arolygydd, Sarjant, Heddweision, Swyddogion Cefnogi Cymunedol yr Heddlu (PCSOs), Cwnstabliaid Gwirfoddol a gwirfoddolwyr sifil. Gall y Partneriaid gynnwys cynghorwyr lleol, wardeniaid, rheolwyr bro, rheolwyr tai, gweithwyr ieuenctid, cwmnïau diogelwch preifat, grwpiau Gwarchod Cymdogaeth a mudiadau gwirfoddol eraill o fewn y gymuned. Gall hefyd gynnwys unigolyn sydd wedi cael ei achredu dan Gynllun Achredu Diogelwch Cymunedol, felly gellir rhoi pwerau cyfyngedig i berson sydd ganddo rôl diogelwch yn y gymuned.

Bydd aelodau'r tîm yn weladwy, yn hygyrch ac yn adnabyddus yn y gymuned leol, a byddant hefyd yn gyfarwydd â'u hardaloedd. Yn ogystal â defnyddio eu pwerau i ddelio â throsedd ac anhrefn, byddant yn gweithio gyda'r partneriaid i ddatrys y problemau hynny sydd bwysicaf i'r bobl leol.