Page Content Starts Here
Gwarchod Cymdogaeth
Gwarchod Cymdoaeth/Gwarchod Cartrefi yw’r enghraifft fwyaf adnabyddus a mwyaf effeithiol o’r heddlu a’r gymuned yn cydweithio mewn partneriaeth i atal trosedd, adeiladu cymunedau diogelach a gwella ansawdd bywyd. Dysgwch fwy am Warchod Cymdoaeth.
Mae’r cynllun yn syml a’i ddiben yw bod nifer o gymdogion yn dod ynghyd i gadw golwg ar eu cartrefi. Darganfyddwch sut i sefydlu cynllun.
Fel arfer mae’r grŵp yn penodi cyd-drefnydd sy’n gweithredu fel cyswllt rhwng y gymuned a’r heddlu lleol. Rhoddir sticeri, cylchlythyrau a chyngor atal trosedd i aelodau, yn eu hannog i roi gwybod i’r heddlu am weithgaredd amheus. A allech chi fod yn Gyd-drefnydd Gwarchod?


