Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Powys

Powys Division

Gwybodaeth am Bowys

Powys yw’r sir fwyaf yng Nghymru, ac mae’n gorchuddio chwarter tir Cymru. Mae’r sir yn wledig iawn ac mae’n un o’r ardaleodd sydd â’r boblogaeth fwyaf gwasgaredig yng Nghymru a Lloegr.

Mae gan Bowys asedau rhyfeddol yn rhinwedd ei thirlun, o fynyddoedd dramatig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn y de, bryniau Coedwig Maesyfed a Mynyddoedd y Cambria i Fynyddoedd y Berwyn yn y gogledd.

Mae’r economi yn seiliedig ar amaethyddiaeth a thwristiaeth, gyda lefel uchel o hunangyflogaeth a busnesau bychain yn bennaf, a chyfraniad pwysig i gyfleoedd cyflogaeth o’r sector cyhoeddus.

Mae’r prif ganolfannau poblogaeth yn cyd-fynd â rhanbarthau plismona’r Trallwng, y Drenewydd, Llandrindod, Aberhonddu ac Ystradgynlais.

Yn nhermau plismona, mae trosedd isel yn nodwedd amlwg yn y sir. Mae’r troseddau mwyaf difrifol yn dueddol o gael eu cyflawni gan droseddwyr sy’n teithio o ardaloedd trefol o’r tu allan i’r sir. Mae gan Bowys 44% o’r cefnffyrdd o fewn ardal y llu ac mae wedi gweld cyfran uchel o ddamweiniau ffyrdd angeuol yn ddiweddar, gyda nifer ohonynt yn ymwneud â beiciau modur. Mae’r duedd hon o drosedd deithiol a damweiniau angeuol wedi’i hadlewyrchu ym mlaenoriaethau’r rhanbarth.

Gwen 03 Chwef 2012 Penodi Prif Gwnstabl Cynorthwyol newydd
Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Powys
Iau 02 Chwef 2012 Coffor wedi’i ddwyn o siop gymunedol yn Llanfechain
Trallwng Wledig, Powys
Mer 01 Chwef 2012 Ymchwilio i achosion o ddifrod troseddol yn y Drenewydd
y Drenewydd, Powys
Mer 01 Chwef 2012 Ymchwilio i fyrgleriaeth yn Four Crosses
Llanfair Caereinion, Powys
Mer 01 Chwef 2012 Difrod i gar yn Aberhonddu
Aberhonddu, Powys
Mer 01 Chwef 2012 Ymchwilio i fyrgleriaeth mewn hufenfa
Powys, y Trallwng