Page Content Starts Here
Plismona Bro ym Mhowys
Mae plismona bro yn ymwneud â darparu gwasanaeth plismona lleol
gyda’r heddlu a phartneriaid yn cydweithio i adnabod a mynd i’r afael â
materion sy’n peri pryder yn eich hardaloedd chi.
Mae Plismona Bro yn ymwneud â chreu tîm sy’n ddynodedig i bob ardal
leol sy’n cynnwys rheolwyr rhawd lleol, Swyddogion Cymorth Cymunedol
yr Heddlu a Chwnstabliaid Arbennig. Mae pob Tîm Bro yn cael eu
goruchwylio gan Arolygydd Bro sy’n gyfrifol am bob un o’r pum rhanbarth
(Y Trallwng; Y Drenewydd; Llandrindod; Aberhonddu ac Ystradgynlais).
Byddwn:
- Yn ymdrin â’r materion sy’n golygu fwyaf i chi yn eich ardal chi
- Yn eich cynnwys chi wrth adnabod blaenoriaethau ac wrth weithredu i fynd i’r afael â hwy
- Yn darparu swyddogion yr ydych yn eu nabod a’u hadnabod.
Byddwn yn anelu at:
- Wrando a siarad â chi i ddarganfod beth sy’n effeithio ar eich bywyd bob dydd fwyaf
- Lleihau trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
- Lleihau ofn trosedd
- Cynyddu boddhad a hyder y cyhoedd yn yr heddlu
- Creu cymunedau mwy diogel a mwy hyderus.
Yr hyn allwch chi ei wneud:
- Dywedwch wrthym am eich problemau. Os na wnewch hynny, mae’n bosibl na fyddwn yn medru helpu.
- Adrodd am unrhyw weithgareddau amheus neu drosedd yn eich ardal.
- Os nad ydych yn derbyn y gwasanaeth yr ydych yn ei ddisgwyl gennym, gadewch i ni wybod.













