Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Monitro gweithgareddau ‘allffordd’ anghyfreithlon yn ardal Rhaeadr

Dyddiad y Cytunwyd: 
14/02/2011
Diweddariadau: 

14/02/11 - Bu swyddogion Rheoli Bro Rhaeadr yn patrolio Cwm Elan gan gadw llygad am weithgareddau allffordd anghyfreithlon. Cyhoeddwyd 1 llythyr o rybudd i berchennog cofrestredig cerbyd 4 x 4 a welwyd yn yr ardal.

Bu swyddogion Ymateb Arfog Powys a swyddogion Rheoli Bro Rhaeadr yn monitro ardal Pantydwr a Bwlch y Sarnau, i weld a oedd pobl yn dal i ddefnyddio’r ardal ar gyfer gweithgareddau allffordd anghyfreithlon. Darganfuwyd bod pobl yn dal i geisio cael mynediad drwy’r tir coedwigaeth o amgylch yr ardal - er bod y llwybrau ar y ffin wedi eu blocio gan rwystrau / cerrig mawr. O ganlyniad i wybodaeth a dderbyniwyd cyflwynwyd nifer o ffurflenni cyfeirio Ymddygiad Gwrthgymdeithasol i Gyngor Sir Powys yn ymwneud â phobl sy’n ymweld â’r ardal er mwyn cymryd rhan mewn gweithgareddau allffordd. Hefyd o ganlyniad i hyn, cafodd nifer o’r bobl rheiny eu dal â chanabis yn eu meddiant a chyhoeddwyd 3 Rhybudd ac 1 Hysbysiad Cosb Benodol.

29/03/11 - Mae Swyddogion Ymateb Arfog a swyddogion Rheoli Bro Rhaeadr yn parhau i fonitro’r ardaloedd o Gwm Elan, Pantydwr a Bwlch y Sarnau i weld a oes yna bobl sy’n parhau i ymweld â’r ardal ar gyfer gweithgareddau allffordd anghyfreithlon a defnyddio tiroedd Ymddiriedolaeth Cwm Elan a Chomisiwn Coedwigaeth mewn modd nad yw’n gyfreithlon.