Gwybodaeth am Sir Benfro
Mae Rhanbarth Sir Benfro yn estyn dros tua 613.25 milltir sgwâr, ac yn cynnwys rhai o olygfeydd godidocaf a mwyaf trawiadol y Deyrnas Unedig. Roedd gan yr ardal boblogaeth o dros 113,000 adeg y cyfrif diwethaf, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio pob un o staff y rhanbarth er mwyn darparu gwasanaeth plismona cymunedol a chyfeillgar ar eu cyfer.



