Gwirio mannau trwyddedig er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyrwyddo’r cynllun Bihafio neu Cewch Eich Banio
13/10/11 - Parhawyd i gynnal patrolau amlwg yn Nhalgarth a’r ardaloedd cyfagos drwy gydol mis Medi. Ni wnaed unrhyw alwadau i’r heddlu mewn perthynas ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Yn Nhalgarth, riportiwyd tair trosedd. Datryswyd un.
Bu tair trosedd yng Ngwernyfed. Datryswyd un.
Ym Mronllys, ni riportiwyd unrhyw droseddau i’r heddlu.
Mae Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru’n parhau i fonitro cerbydau sy’n goryrru yn yr ardal, gyda nifer o docynnau cosb penodedig yn cael eu cyflwyno yn Nhalgarth, Llyswen a Bronllys.
20/12/2011 - Mae swyddogion y Tîm Plismona Bro yn cynnal gwiriadau mewn adeiladau trwyddedig mewn ymgais i geisio lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a hyrwyddo’r cynllun Bihafio neu Cewch Eich Banio (B.O.B.B.). Mae swyddogion yn parhau i weithredu’n gadarnhaol yn erbyn troseddwyr sy’n cyflawni troseddau dan ddylanwad alcohol ac yng nghyffiniau adeilad trwyddedig. Ar hyn o bryd, mae 8 unigolyn wedi eu gwahardd am gyfnod hir ac mae 2 arall wedi derbyn hysbysiadau gwahardd dros dro ac yn disgwyl y canlyniad o’r cyfarfod B.O.B.B. nesaf.
Mae ymgysylltu â’r gymuned drwy gymorthfeydd stryd, patrolau a chyfarfodydd PACT yn profi’n fuddiol dros ben, ac wedi arwain at dderbyn cudd-wybodaeth gogyfer â’r flaenoriaeth uchod a fydd yn parhau i mewn i fis Rhagfyr a’r Flwyddyn Newydd.


