Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yng Nghegidfa (yn benodol, ardal yr ysgol a’r maes cymunedol a hamdden).
09/02/11 - Parhawyd i gynnal patrolau yng nghyffiniau’r maes cymunedol a hamdden gan dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol ac yfed dan oed.
06/03/11 - Parhau i gynnal patrolau rheolaidd ym mhob ardal er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Gweler isod nifer y galwadau yn ymwneud ag ymddygiad gwrthgymdeithasol fesul ardal y mis hwn: Ffordun – 1; Cegidfa – 3; Tre’r-llai – 0; Treberfedd – 0; Trewern – 1; Buttington – 0; Llanymynech - 0; Llandrinio – 0.
20/04/11 - Ymweliad i gyfeiriad yn Llandrinio, ar y cyd â Swyddog
Tai o Gyngor Sir Powys, mewn perthynas ag adroddiadau ynghylch ymddygiad
gwrthgymdeithasol. Nid oes adroddiadau pellach wedi eu derbyn i’r
cyfeiriad hwn ers yr ymweliad.
Parhawyd â phatrolau rheolaidd ym
mhob ardal er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Llanymynech, Four
Crosses, a Llandrinio, a siaradwyd â phobl ifanc. Cyswllt parhaus â
Heddlu Gorllewin Mersia a chynghorau lleol mewn perthynas ag ymddygiad
gwrthgymdeithasol a mân droseddu yn Llanymynech.
15/06/11 - Cynhaliwyd patrolau ar droed ac mewn cerbydau mewn ardaloedd allweddol o amgylch canolfan gymunedol, meysydd chwarae a chyrtiau tenis Cegidfa. Cynhaliwyd patrolau hefyd ym maes parcio’r ysgol a phentref Cegidfa gan gynnwys Oak Lane.
16/02/2012 - Ni fu unrhyw adroddiadau am ymddygiad gwrthgymdeithasol (niwsans) yng Nghegidfa, a dim ond un alwad a dderbyniwyd yn Nhreberfedd, Trewern a Llanymynech.
Parhawyd â phatrolau mewn mannau problemus er mwyn lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.
20/02/2012 - Mae patrolau’n cael eu cynnal yn yr ardaloedd allweddol yng Nghegidfa.
04/03/2012 - Bu Tîm Plismona Bro’r Trallwng yn bresennol yn y farchnad da byw er mwyn ymgysylltu â busnesau â’r gymuned ffermio leol.
Cynhaliwyd patrolau yn yr ardaloedd sydd wedi’u nodi fel mannau problemus yn ardal Cegidfa. Ni riportiwyd ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Mae Gwarchod Ffermydd dal yn cael ei wthio ymlaen mewn partneriaeth ag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr. Mae uwch swyddogion yn ystyried ffyrdd o roi’r system ar waith er mwyn gweithio’n effeithiol â systemau Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.
17/05/2012 - Patrolau Gwelededd Uchel yng Nghegidfa o amgylch ardal yr eisteddle a’r ysgol er mwyn atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.


