Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gyrru gwrthgymdeithasol

Ardal Leol: 
Coelbren
Dyddiad y Cytunwyd: 
17/06/2011
Camau Gweithredu: 

Mae Uned Plismona Ffyrdd Canolbarth Cymru yn dal i batrolio ardal y Tîm Rheoli Bro.

Diweddariadau: 

20/06/11 - Cyhoeddwyd 4 Hysbysiad Cosb Benodol am oryrru yn ystod mis Mai.

15/07/11 - Mewn ymateb i’r flaenoriaeth ynghylch goryrru, yn dilyn rhybudd Adran 59 blaenorol ac ar ôl gwneud ymholiadau, mae unigolyn ifanc lleol ar fin colli ei gerbyd dros dro.

19/09/11 - Mae’r Tîm Rheoli Bro yn parhau i weithio mewn partneriaeth â Pharciau Cenedlaethol. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd mewn perthynas â defnyddio cerbydau 4x4 yn ardaloedd Ystradfellte a Sarn Helen.

Mae Uned Plismona’r Ffyrdd Canolbarth Cymru’n parhau i gynnal patrolau rheolaidd yn ardal Ystradgynlais. Ym mis Awst, rhoddwyd 8 Hysbysiad Cosb Benodedig am droseddau goryrru.