Mynediad at Wybodaeth y Ddeddf Gwarchod Data
Mynediad at Wybodaeth
Un o hawliau rhywun sy’n Destun Data.
Mae darpariaethau Mynediad at Wybodaeth y Ddeddf Gwarchod Data yn rhoi’r hawl i unigolyn gael copi o unrhyw ddata personol sydd wedi’i gadw amdanynt yn amodol ar rai eithriadau penodol.
Dywed Adran 7 Deddf Gwarchod Data 1998 bod gan rywun sy’n “destun data” (y sawl y mae’r data personol yn cyfeirio ato / ati) yr hawl, ar gais ysgrifenedig, i gael gwybod os oes unrhyw ddata personol amdano/amdani yn cael ei gadw neu ei brosesu.
Gweler Hefyd: Egwyddorion y Ddeddf Gwarchod Data
Gwneud Cais
Os hoffech wybod pa wybodaeth (os o gwbl) sydd wedi’i chadw amdanoch gan Heddlu Dyfed Powys, neu os hoffech gael cadarnhad p’un ai oes gennych hanes o erlyniadau /euogfarnau ai peidio, rhaid i chi lenwi ffurflen Mynediad at Wybodaeth.
Rhaid anfon y ffurflen gais wedi’i chwblhau atom ynghyd â ffi o £10.00, prawf o pwy ydych a digon o wybodaeth i ni allu dod o hyd i’ch data personol.
Mae ffurflenni cais ar gael o’r:
Rhaid bod gennych feddalwedd Adobe Reader i weld neu i lawrlwytho ffeiliau PDF. Gellir lawrlwytho Adobe Reader yn rhad ac am ddim o Adobe.
Neu am :
Adran Diogelu DataPencadlys Heddlu Dyfed Powys
Bwlch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Rhif Ffôn: 0845 330 2000
Rhif Ffacs: 01267 226122
Neu gallwch ebostio’r Adran Diogelu Data ar: dataprotection@dyfed-powys.pnn.police.uk
Gallwch anfon ffurflenni cais ynghyd â’r ffi o £10 a phrawf adnabod addas (gweler y ffurflen am y manylion) yn ôl drwy’r post neu gallwch ei rhoi i mewn yn unrhyw Orsaf Heddlu yn ardal Dyfed Powys. Ni allwn ddefnyddio ffurflenni wedi’u cwblhau trwy’r e-bost.
Noder os gwelwch yn dda: Ar ôl derbyn eich cais, gall y broses o ddarparu’r wybodaeth ar eich cyfer gymryd hyd at 40 niwrnod.
Os ydych yn byw dramor ac angen prawf nad oes gennych gofnod troseddol, dylech wneud ymholiad Hawl i Wybodaeth gyda’r heddlu yn yr ardal lle’r oeddech yn byw ddiwethaf.
Hafan