Cwnstabliaid Gwirfoddol
Mae ein Cwnstabliaid Gwirfoddol yn adnodd hanfodol i Heddlu Dyfed-Powys; maent yn cynnig cefnogaeth amhrisiadwy i’n heddweision arferol ac yn golygu bod mwy o swyddogion i’w gweld yn ein cymunedau.
Yn ddynion ac yn fenywod, maent yn perthyn i bob math o gefndiroedd ethnig a chymdeithasol ac yn dod o bob rhan o’r gymuned – athrawon, ffermwyr, gweithwyr siop, gwragedd tŷ. Mae rhai yn gweithio llawn amser, rhai rhan amser ac eraill yn gweithio gartref yn magu teulu – pobl gyffredin sy’n awyddus i roi rhywbeth yn ôl i’w cymuned.
Fel Cwnstabl Gwirfoddol gyda Heddlu Dyfed-Powys byddwch yn gweithio ochr-yn-ochr â’n swyddogion cyflogedig a disgwylir i chi roi 16 awr o wasanaeth y mis. Mae bod yn Gwnstabl Gwirfoddol yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau newydd ac i ddysgu am waith yr heddweision arferol. Byddwch yn gwisgo’r un iwnifform ac yn cario’r un offer â’r heddweision arferol; yr unig wahaniaeth yw bod rhifau coler y Cwnstabliaid Gwirfoddol i gyd yn dechrau gyda’r rhif saith.
Efallai na fydd eich dyletswyddau bob amser yn rhai rhwydd, ond mae’n rôl gwerth chweil sy’n cynnig sialens, amrywiaeth a llawer o foddhad.
Mae yna dîm recriwtio arbenigol wedi’i leoli ym Mhencadlys yr Heddlu a all roi cefnogaeth a chymorth i ddarpar recriwtiaid. Gallwch gysylltu â ni ar 01267 226294 neu ar 01267 226443.
Ffurlen Gais
Os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn Gwnstabl Gwirfoddol, lawrlwythwch a chwblhewch y ffurflenni cais a’u dychwelyd i’r cyfeiriad isod:
Tîm Adnoddau Gweithwyr
Pencadlys Heddlu Dyfed-Powys
Blwch Post 99
Llangynnwr
Caerfyrddin
SA31 2PF
Sicrhewch eich bod chi’n dodi digon o stampiau ar y pecyn cais wrth ei ddychwelyd i ni. Oni roddir digon o stampiau ar y pecyn, bydd eich cais yn cael ei wrthod. NI FYDDWN yn cydnabod derbyn eich cais. Ar ôl i’r ceisiadau gael eu marcio, byddwn yn cysylltu â phob ymgeisydd i roi canlyniadau’r broses ddidoli gychwynnol iddynt.
Os fyddwch chi’n llwyddiannus yn y broses ddidoli gychwynnol, bydd yn rhaid i chi gyflawni’r canlynol:
- Canolfan Asesu (bydd yn rhaid i chi fynd i Bencadlys Heddlu Dyfed-Powys yng Nghaerfyrddin)
- Prawf Ffitrwydd
- Cyfweliad Rhanbarthol
- Geirdaon a gwiriadau diogelwch
- Asesiad Meddygol
Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch unrhyw agwedd o’r broses, neu os oes angen unrhyw gymorth neu drefniadau arbennig arnoch o ran cael mynediad i’r broses recriwtio, peidiwch ag oedi i gysylltu â ni ar y rhif isod. Nodwch os gwelwch yn dda, petaech yn llwyddiannus yn eich cais, telir eich costau teithio yn unig gan Heddlu Dyfed-Powys.
Diolch i chi eto am ddangos diddordeb mewn ymuno â Heddlu Dyfed-Powys, ac edrychwn ymlaen at dderbyn eich ffurflen gais.


