Dyfed Powys Police | Heddlu Dyfed Powys
Page Content Starts Here

Gwirfoddolwyr Sifil

Pwrpas ein swyddi Gwirfoddol yw gwella gwasanaeth yr Heddlu a darparu cefnogaeth ychwanegol i’n cymunedau lleol. Mae ein gwirfoddolwyr yn cynorthwyo swyddogion a staff yr heddlu gan eu rhyddhau hwy i ganolbwyntio ar ddyletswyddau plismona craidd sydd, yn ei dro, yn golygu bod mwy o swyddogion ar y stryd a’n bod yn gallu rhoi gwell gwasanaeth i’n cymunedau.

Mae sicrhau fod swyddogion heddlu yn cael eu gweld yn y gymuned yn helpu’r Heddlu i gyrraedd ei nod sef i leihau troseddu, anhrefn ac ofn.

Mae’r cyfleoedd i Wirfoddolwyr yn amrywio o orsaf i orsaf yn ôl anghenion y gwasanaeth a’r gymuned leol. Rydym yn chwilio am bobl sy’n barod i ymwneud ag amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys:

  • Helpu wrth gownteri ffrynt gorsafoedd heddlu
  • Cofnodi a storio eiddo sydd ar goll/wedi ei ffeindio
  • Cymryd rhan mewn ymgyrchoedd yn ymwneud â diogelwch y gymuned ac atal troseddu
  • Cynorthwyo wrth fonitro TCC
  • A llawer mwy !